Mae’r band gwerin ffynci sy’n gyfuniad o glocsio, ffidlo, strymio a phyncio ar y delyn, ar fin cychwyn taith ryngwladol ac ymweld â chartref ysbrydol canu gwerin y Saeson…

Mae criw Calan wedi cael Lwc Mul ar ambell daith i’r Amerig.

Ar eu hantur gyntaf yno yn 2015 fe gafodd y gitarydd Sam Humphreys a’r ffidlwr Patrick Rimes eu hel adref am nad oedd manylion eu fisas wedi eu nodi ar eu pasborts.