Mae Mei yn feddalach na’r gweddill. Fel yna mae o wedi bod erioed. Mae o wedi dysgu i gadw ei dynerwch yn gyfrinach fach dawel yn ddwfn ym mherfeddion ei galon. Bu adegau, flynyddoedd mawr yn ôl, pan ddysgodd Mei fod dynion fel fo – Cymry go-iawn, hogia’ iawn, bois y dre’- i fod i feithrin ryw galedni. Ac mae o wedi trio – Mam bach, mae o wedi trio ar hyd ei oes i roi’r gorau i deimlo’n drist, ac yn hytrach teimlo’n flin; i floeddio yn lle sibrwd. Ond mae o’n dal yn feddal. Hyd yn oed ar ddiwrnod fel heddiw.
Fydd o byth yn deall y drefn – Fod ambell un yn cael eu geni i freintiau a rhai eraill yn cyrraedd i fyd sydd wedi eu diystyru nhw’n barod. Fydd o byth yn deall un wlad yn goresgyn un arall, a phres mawr yn mynd i un teulu, a tra fydd o byw, ni fydd Mei yn deall nac yn cydnabod gwerth coron.
Ond mae o’n deall galar, er mor gymhleth ydi’r peth annelwig hwnnw. Mae o’n gweld y teulu ar y newyddion, eu hanes nhw’n gwlwm o hen rwygiadau, ffraeo, diffyg teyrngarwch, angylion a chythreuliaid. Mae o’n cofio’r chwithdod annioddefol pan fu farw ei fam ei hun ychydig flynyddoedd yn ôl, y teulu i gyd wedi eu gorfodi i gymodi dros dro, ei feibion yn smalio licio’i gilydd unwaith eto, ei frawd afradlon wedi dychwelyd i sefyll yng nghornel y gegin yn chwys i gyd, neb yn siŵr iawn beth i’w ddweud wrtho. Wnaeth baneri’r cyngor ddim cael eu gostwng i hanner mast ar gyfer ei fam, er ei bod hi wedi caru’r lle yma go-iawn. Wnaeth neb sôn amdani ar y teledu na’r radio, er ei bod hi wedi bod yn ddynes bwysig, da; yn frenhines y teulu yma.
Mae Mei yn ddigon o ddyn i ganiatáu i bobol deimlo eu galar hwythau heb farnu. Yn dawel bach, mae o’n meddwl efallai mai galaru mwy na brenhines maen nhw; yn galaru hen ffordd o fyw oedd mewn gwirionedd yn llawer iawn hyllach na beth mae’r cof yn hawlio; yn galaru cenhedlaeth oedd yn cynnwys neiniau a theidiau, arwyr a chymwynaswyr. Ac i Mei, y meddalaf ohonyn nhw i gyd, roedd o’n hanner-galaru dros y strydoedd yma, y tai a’r bobol a’r gymdeithas, gan wybod yn ei galon annwyl nad tywysog oedd ei angen yma, ond rywun a fyddai’n tywys.