Gweld hynodrwydd yn y pethau cyffredin mae dau artist o ardal Abertawe…

 

Fe gwrddodd Carys Evans ac Alastair Elkes-Jones ar gwrs celf tua 10 mlynedd yn ôl, pan oedd y naill wedi troi ei llaw at gelf ar ôl ymddeol o ddysgu yn ei 50au, a’r llall yn artist a oedd wedi bod wrthi ers tro.

Nawr mae’r ddau gyfaill wedi trefnu arddangosfa ar y cyd yn oriel Theatr Volcano, Abertawe, sy’n cynnwys paentiadau a darluniau, hen a newydd, o dan y teitl ‘Bob Dydd/Everyday’.