Portread o’r Parchedig Rosa Hunt

Un o Falta ydy’r fenyw gyntaf i gael ei derbyn i fod yn weinidog yn unig eglwys Gymraeg ei hiaith y Bedyddwyr yng Nghaerdydd.

Ar ôl treulio tua deng mlynedd yn weinidog Capel Salem yn Nhon-teg ger Pontypridd, mae Rosa Hunt yn gobeithio cynorthwyo’r Tabernacl er mwyn gwneud gwahaniaeth yn y brifddinas.

Roedd dysgu Cymraeg yn gam naturiol iddi, a hynny er parch i’r diwylliant a’r iaith leol, pan symudodd yma yn 2007.