Fel dynes ddu mae’n anodd disgrifio’r cyswllt rhwng fy ngwallt a fy hunaniaeth. Efallai fuasech chi’n synnu at ddyfnder fy nheimladau am hyn ac yn fy ngweld i braidd yn ddramatig.

Ond gadewch i fi egluro. Mae gwallt merched du yn symbol o hunaniaeth, personoliaeth, hanes a chyfleustra. Pam bod gwallt ni yn rhan mor gryf o’n hunaniaeth?  Yn achos fi, dechreuais i gasáu fy ngwallt gydag angerdd! Dwi’n cofio fy mam yn sgrafellu drwy fy ngwallt trwchus efo crib mawr miniog.