Enillydd Rali Ceredigion 2022, Hayden Paddon o Seland Newydd, yn sbarduno yn ei gar Hyundai ar hyd prom Aberystwyth nos Sadwrn diwethaf. Denodd yr achlysur dorfeydd mawr ar hyd y prom. Dyma’r tro cyntaf i’r Rali gael ei chynnwys yng nghalendr Pencampwriaeth Ralïo Prydain, a dim ond yr eildro iddi gael ei chynnal erioed, yn dilyn y gyntaf yn 2019. Roedd yna 12 cymal i gyd ac 86 milltir o ras ar hyd ffyrdd a oedd wedi eu cau.