Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar yr erthygl hon, a ymddangosodd yn wreiddiol yn y cylchgrawn, i bawb gael blas ar yr arlwy…

Mae Huw Onllwyn wedi holi un o fawrion gwleidyddol y genedl ar gyfer cyfres o erthyglau hynod i Golwg.

Yn fwyaf cyfarwydd am fod yn Llywydd cynta’r Cynulliad, a drodd maes o law yn Senedd Cymru, bu Dafydd Êl yn rhan o ddodrefn gwleidyddol Cymru byth ers cael ei ethol yn Aelod Seneddol ieuengaf Prydain nôl yn 1974, a hynny tros Blaid Cymru ym Meirionnydd.

Yn nhrydedd rhan y cyfweliad cynhwysfawr cyntaf iddo ei roi ers iddo ymddeol o’r byd gwleidyddol y llynedd, mae’n trafod cael ei hel o Blaid Cymru, dod yn un o weinidogion Llywodraeth Cymru, a’r ffordd orau o ethol aelodau i’n Senedd…

Bu Dafydd Elis-Thomas yn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o’r adeg y cafodd y lle ei agor yn 1999 hyd at 2011, cyn dychwelyd i rengoedd Plaid Cymru.

Flwyddyn wedyn roedd yn y ras i olynu Ieuan Wyn Jones yn Arweinydd y Blaid, ond Leanne Wood oedd dewis yr aelodau.

A’r cynnwrf nesaf yng ngyrfa Dafydd oedd cael ei hel o’r Blaid ym mis Hydref 2016.

Roedd yna hanes rhyngddo a’r Arweinydd ar y pryd.

Leanne Wood oedd yr Aelod cyntaf i gael ei gyrru allan o siambr y Cynulliad, ar ôl cyfeirio at y Frenhines fel ‘Mrs Windsor’ yn 2004. Gofynnodd Dafydd, y Llywydd ar y pryd, iddi dynnu’r sylw yn ôl. Fe wrthododd – ac allan â hi.

Erbyn 2016 dim ond 12 sedd oedd gan y Blaid yn y Cynulliad – o’i gymharu â 29 y Blaid Lafur.

Yma mae Dafydd Elis-Thomas yn egluro sut y bu iddo adael y blaid y bu yn aelod ohoni ers y 1960au.

Tarddiad fy eithrio,” esboniodd Dafydd, “oedd rheolau sefydlog y Cynulliad a chynnwys Deddf Llywodraeth Cymru – a oedd yn meddwl fod angen gosod cynnig gerbron y Cynulliad i ethol Prif Weinidog. Tra’r oeddwn yn Lywydd roeddwn wastad wedi disgwyl i’r cynnig gael ei drafod rhwng y pleidiau, cyn ei osod gerbron y Cynulliad. Roedd hyn i fod i ddigwydd er mwyn sicrhau unoliaeth barn yng nghyswllt y dewis o Brif Weinidog. Dyma yw’r drefn yn y Dáil, lle mae dyletswydd ar bob aelod etholedig i ystyried sut i sicrhau llywodraeth sefydlog i Iwerddon, gan adlewyrchu dyheadau etholwyr y wlad. Mae yna urddas yn perthyn i’r drefn – ac mae’n sicrhau statws Prif Weinidog y wlad.

Nid oeddwn yn Llywydd erbyn hyn. Felly roedd modd i mi fynychu cyfarfod grŵp y Blaid er mwyn trafod y mater. Fe’m siomwyd gan fwriad Leanne Wood i beidio â dilyn y drefn arferol – er mwyn cynnig ei hunan fel Prif Weinidog. [Efo 12 sedd yn unig! Rhyfedd o gynllun!] Fe ddadleuais y dylwn drafod efo’r Blaid Lafur – er mwyn sicrhau undod barn a fyddai’n sicrhau urddas i’r Cynulliad tra’n adlewyrchu dyheadau etholwyr Cymru – ond dim ond dau aelod arall bleidleisiodd gyda mi dros wneud hynny.

Dilynwyd hyn gan three-line whip yn y Cynulliad – ac fe bleidleisiais yn unol â hynny. Ac felly fe grewyd impasse yng nghyswllt Prif Weinidog nesaf Cymru. Fe ddaeth Carwyn Jones [arweinydd y Blaid Lafur] i fy ngweld gan esbonio fod y cynnig iddo fod yn Brif Weinidog i’w gyflwyno eto. Gofynnodd i mi bleidleisio efo’r Blaid Lafur [go debyg ei fod yn gyfarwydd efo barn Dafydd am y broses]. Esboniais y byddwn yn cael fy nhaflu allan o’r Blaid ar ddiwrnod y bleidlais. Ond pwysodd Carwyn arnaf i ‘wneud y peth iawn’ ac y byddai modd ‘cael sgwrs’ wedyn. A dyna a fu. Fe bleidleisiais efo’r Blaid Lafur, ar fy mhen-blwydd – a hynny ar ôl sgwrs anodd iawn efo pwyllgor f’etholaeth.

“Y peth mwyaf pwysig i mi, fodd bynnag, oedd dilyn yr egwyddor fod angen dangos unoliaeth barn ar lawr y Cynulliad o ran pwy ddylai fod yn Brif Weinidog i’n gwlad. Roedd angen hynny er mwyn gwarchod urddas a statws y swydd.”

“Go ffiaidd oedd agwedd ambell i aelod”

Erbyn hyn, felly, roeddwn yn aelod annibynnol – yn byw mewn rhyw fath o purdah personol am fisoedd. Yn y cyfnod hwnnw fe bleidleisiais efo Llafur Cymru, pob tro. Yn 1974, tra yn Nhŷ’r Cyffredin, fe ddywedais: ‘I will never knowingly unseat a Labour administration’ – ac fe ddilynais yr un egwyddor yn 2016. [Gyda 29 sedd, bregus oedd sefyllfa’r Llywodraeth Lafur]. “Fy nyletswydd oedd helpu i sicrhau fod y Cynulliad yn gallu gweithio’n iawn. Yn y cyfamser, roedd y rhan fwyf o aelodau’r Blaid yn weddol gwrtais – ond, wrth gwrs, go ffiaidd oedd agwedd ambell i aelod.”

Coron gyrfa: a hwb i dim pêl-droed Cymru

Ym mis Tachwedd 2017, ac yntau yn Aelod Annibynnol o’r Senedd, fe wnaed Dafydd Elis-Thomas yn Ddirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn ystod reshuffle gan Carwyn Jones.

Nid oeddwn wedi disgwyl cael portffolio,” meddai. “A dyma’r tro cyntaf i mi gael swydd lle roeddwn yn deall yn union beth oedd angen i mi ei wneud!

“Dywedodd Carwyn wrthyf ei fod wedi bod yn meddwl beth hoffwn ei wneud. ‘Beth am ddiwylliant?’ gofynnodd. Dw i’n meddwl fy mod yn gwybod beth yw diwylliant, atebais. ‘Beth am dwristiaeth?’ Ie! ‘A chwaraeon?’ O ie!

“Dirprwy Weinidog oeddwn – ond roedd gennyf yr hawl i gyfrannu – ac i gefnogi neu gwestiynu – materion ehangach – ac roeddwn yn mynychu cyfarfodydd y Cabinet. Arhosais yn y swydd pan olynodd Mark Drakeford Carwyn. Roeddwn yn adnabod Mark ers ei ddyddiau fel swyddog prawf – ac fel ymchwilydd i Rhodri.

“I mi, roedd hwn yn goron ar fy ngyrfa. Pŵer Gweinidog a chyllid i’w wario. Un peth a wnaethpwyd gennyf oedd cynnig £300k i Gymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn helpu tîm Cymru i baratoi ar gyfer cystadlaethau rhyngwladol.”

Go debyg fod y cyllid hwnnw wedi helpu arwain at lwyddiant Cymru wrth iddynt gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Qatar. Os felly, mawr yw ein diolch i Dafydd!

Fe ddaeth ei yrfa i ben wrth benderfynu, yn 74 mlwydd oed, peidio â sefyll yn etholiad Cynulliad 2021.

“Meddwl y byd o Huw Thomas”

Ond beth yw ei safbwynt nawr? Cefnogi’r Blaid? Neu Lafur? Neu yn yr anialwch?

“Dw i heb wneud unrhyw gais i ail-ymuno â’r Blaid,” meddai.A dw i bellach yn gallu pleidleisio yng Nghaerdydd a Nant Conwy [mae ganddo dai yn y ddau le]. Mae modd i mi bleidleisio dros y ddwy blaid – yn dibynnu ar y sefyllfa leol. Mae gennyf y rhyddid i gefnogi’r person a’r blaid sydd â’r cynnig gorau i’r gymdeithas. Dw i’n gweld rôl bwysig i gynghorwyr gwledig Plaid Cymru yng Nghonwy – a dw i wedi plesio’n fawr gan waith cynghorwyr blaengar Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin – a’u cydweithio cyson efo Llywodraeth Cymru.

“Dw i hefyd yn meddwl y byd o Huw Thomas, arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd. Talent ifanc. Ond mae cynghorwyr y Blaid yng Nghaerdydd yn fy mhlesio hefyd. Ac mae Rhys ab Owen, sydd hefyd yng Nghaerdydd, yn wleidydd ardderchog i’r Blaid.”

Sosialydd i’r carn felly?

“Dw i wastad wedi ystyried fy hun felly. Dw i’n ddyn sydd wedi fy ngwreiddio mewn ysgolheictod a dadansoddiadau Marcsaidd – ond, er hynny, dw i ddim yn meddwl am fy hun fel Marcsydd.”

Rhaid gofyn, wyt ti’n sosialydd siampên?

“Nac ydw, rwy’n sosialydd gwin gwyn sych!”

“Ansawdd aelodau’r Senedd wedi gwella”

Beth am y Gymru gyfoes a’i Llywodraeth?

“Dw i’n credu fod Mark Drakeford wedi ennyn cefnogaeth dda i’w Lywodraeth, yn enwedig yn ystod cyfnod y pla. Yn ogystal â hynny dw i’n falch iawn i weld y bydd gennym niferoedd digonol o Aelodau Seneddol i gynrychioli pobl Cymru, yn dilyn yr etholiad nesaf [pan fydd cynnydd yn y nifer o aelodau o 60 i 96].”

Mae’n amlwg fod Dafydd o’r farn fod digon o waith iddynt ei wneud, er mai dim ond pump o fesurau bydd i’w cyflwyno gan Mark Drakeford ar gyfer ail flwyddyn y Senedd.

Beth am ail dŷ, fel Tŷ’r Arglwyddi yn Llundain, er mwyn sicrhau gwell sgriwtini o waith y Llywodraeth?

 “Ni fyddaf yn cefnogi hynny,” meddai, “ond byddaf yn hapus i weld sefydlu trefn yn debyg i’r Ffindir, sef creu Uwch Bwyllgor Dethol er mwyn sicrhau cywirdeb deddfwriaethol a chyfansoddiadol gwaith y Llywodraeth – a chynnig barn yng nghyswllt polisi.

“Dw i’n credu, fodd bynnag, fod ansawdd aelodau’r Senedd wedi gwella ers dyddiau cynnar y Cynulliad. Mae yno bobl ifanc o safon.”

Y Prif Weinidog nesaf: Vaughan neu Jeremy?

Beth am Vaughan Gethin a Jeremy Miles? Gyda’r ddau yn cael eu crybwyll fel olynwyr posib i Mark Drakeford, pa un fyddai e’n ei ffafrio?

“Mae’r ddau yn sicr yn ddigon da,” meddai. “Dw i’n adnabod Vaughan ers ei amser yn lywydd myfyrwyr Aberystwyth. Ac mae Jeremy Miles yn wych. Ond nid fy newis yw hyn. Felly dw i’n gwrthod ffafrio neb!”

 Oes unrhyw un arall yn haeddu’r swydd?

“Cwestiwn newyddiadurwr yw hwnna! Dw i’n gwrthod ateb!”

Cynrychioli etholwyr Cymru

Yw e’n broblem fod Llywodraeth Cymru yn debyg o fod o dan ofal y Blaid Lafur am byth?

“Yn sicr mae angen diwygio’r system i gael y gynrychiolaeth gyfrannol fwyaf democrataidd bosib,” meddai, “ac nid oes angen edrych ymhellach nag Iwerddon i ddod o hyd i system sy’n ateb y galw [defnyddir y single transferable vote – STV – yno]. Dw i’n rhannu’r pryder y gall y system D’hont a gynigir gan Lafur Cymru eu ffafrio, fel y blaid fwyaf. Mae angen system sy’n cynnig pleidlais sengl drosglwyddadwy lawn.”

Ond beth am fanteision D’hont yng nghyswllt mandatory zipping (er mwyn sicrhau cynrychiolaeth 50:50 o fenywod a dynion)?

“Mae STV yn bwysicach,” meddai, “a mater i’r pleidiau ddylai fod sicrhau cynrychiolaeth mor gyfartal â phosib.”

Onid yw etholwyr y Ceidwadwyr yn mynd i deimlo wedi eu cau allan o’n Senedd am byth – ac yn enwedig wrth gofio’r ddêl ddiweddar rhwng y Blaid a Llafur? [Mae gan y Ceidwadwyr 16 o seddi; dim ond 13 sydd gan y Blaid]. Pa ‘hawl’ sydd gan y Blaid i gael gymaint o ddylanwad?

“Mae hyn yn digwydd yn yr Iwerddon, yr Eidal, Israel – a phobman sydd â chynrychiolaeth gyfrannol,” meddai.

“Yn y pendraw does gan neb sy’n sefyll dros blaid yr hawl i fod yn rhan o unrhyw lywodraeth – mae hefyd angen bod yn rhan o’r mwyafrif, neu glymblaid – a chael cynnig swydd fel gweinidog! Ond, eto, gall fod o gymorth pe fydd modd i ni sicrhau gwell cynrychiolaeth gyfrannol.”

ETO I DDOD:

“Bydd y bygythiad o weld bwlch anferth yn ein cyllid yn broblem anodd ei oresgyn i’r rheini sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth…”

Yr iaith Gymraeg: “Mae ein plant yn ei dysgu, ond ddim yn ei defnyddio…”

“Mae Radio Wales yn well na Radio Cymru…”