Ymhen rhyw flwyddyn mae’r SNP yn gobeithio cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth yr Alban. Bydd yna frwdfrydedd ymhlith cenedlaetholwyr yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ynghylch hyn, ond wrth i’r dyddiad posib hwnnw agosáu, nid edrych ymlaen ydw i, ond pryderu’n gynyddol.