Mae’r delynores sy’n canu gwerin ar fin rhyddhau ei hail albwm, Edyf.

Ac mae’r ferch 20 oed o Fachynlleth yn cymryd blwyddyn o hoe o astudio Cerddoriaeth yng Ngholeg Goldsmiths, Prifysgol Llundain, er mwyn canolbwyntio ar y gigio…

Sut beth yw’r casgliad newydd?

Hefo Cwmwl, yr albwm gyntaf, doedd gen i ddim syniad beth oeddwn i yn ei wneud. Y bwriad oedd jesd i gael CD i werthu mewn gigs.