Roedd Beth Pugh yn ffeinal Brwydr y Bandiau eleni, yn perfformio dan yr enw ‘Francis Rees’.
Ond deuawd o’r enw Sachasom wnaeth ennill, ac mae Beth wedi bod yn holi’r band buddugol ar ran y Babell…
O Mari Mathias yn 2019, i skylrk (Hedydd Ioan) yn 2021, a Sachasom eleni – mae enillwyr diweddar cystadleuaeth Brwydr y Bandiau y Steddfod Genedlaethol yn creu cynnwrf. Gyda’u ffyrdd gwahanol o greu, mae’r tri artist yma yn newid y sîn miwsig ac yn ysbrydoli mwy a mwy o bobl i greu a dangos eu cerddoriaeth.
Eleni, roedd y pedwar act wnaeth gyrraedd ffeinal Brwydr y Bandiau – Rhys Evan, Llyffant, Sachasom a Francis Rees (FI!) – yn dangos ffyrdd gwahanol o greu, ac roedd e’n wefreiddiol gweld rhestr fer mor wahanol a newydd!
Wrth ddod i’r brig ym Mrwydr y Bandiau eleni, wnaeth Sachasom roi perfformiad bythgofiadwy o’u cerddoriaeth electronica tywyll ar lwyfan y Maes ar y dydd Mercher, ac ennill yr hawl i chwarae Maes B ar nos Sadwrn ola’r Steddfod yn Nhregaron.
Ac rydw i wedi bod yn holi Izak Zjalic o’r band Sachasom am ei brofiadau yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau. Daw Izak o Fachynlleth, ac mae hanner arall Sachasom, Lewys, o Ddolgellau, ac yn adnabyddus am ganu a chwarae gitâr mewn band gitâr indi o’r enw Lewys…
Felly, Izak, sut brofiad oedd ennill Brwydr y Bandiau eleni?
Ma’n deimlad da i ennill eleni, gan ystyried y maint o bethe rydan ni wedi gwneud. Wnaethon ni gael ein gig gyntaf yn mis Tachwedd [2021], ac wedyn gwneud ein cân gyntaf ym mis Chwefror [2022], ac rŵan yr albwm [Yr Offerynols]. Roedd o’n good i mynd trwyddo i’r ffeinal ac ennill [Brwydr y Bandiau].
Pam wnaethoch chi benderfynu cystadlu?
Syniad fi oedd cystadlu. Roeddwn i am ddefnyddio prosiect [cerddorol] cynt fi i gystadlu hefo, un oedd yn mwy industrial. Ond doedd negeseuon y gerddoriaeth ddim yn mynd gyda sut ro’n i’n teimlo nawr.
Roeddwn i’n sypreisd i fynd trwyddo i’r ffeinal, i fod yn onest, ac yn hapus a falch gyda’r cyfleoedd wnaeth ddod ar ôl y gystadleuaeth.
Beth oeddech chi’n feddwl o’r tri act arall yn y ffeinal?
Roeddwn i’n hapus i weld y tri arall yn cystadlu oherwydd roedd pawb gydag elfennau technoleg mor wahanol i’w gilydd. Roedd o’n dangos shift mewn agweddau possibility cerddoriaeth Gymraeg.
Oedd o’n help bod tri beirniad y Frwydr – Casi Wyn, Lemfreck ac Endaf – o gefndiroedd cerddorol gwahanol a gyda ffyrdd amrywiol o greu miwsig?
Oedd!
Gan fod y tri yn unigolion creadigol yn eu ffyrdd eu hunain… ac mae’r tri yn hanfodol i’r sîn. Maen nhw i gyd gydag elfennau gwahanol i’w cerddoriaeth – inspiring!
Beth yw’r camau nesaf i Sachasom?
Gyda fy ngherddoriaeth, dw i’n gobeithio creu cerddoriaeth fwy personol i fi. Cynnwys mwy o hiraeth, a hanes lleol hefyd.
Dw i’n gobeithio gwneud albwm newydd sy’n fwy concrete a mwy personol.
Dw i yn gobeithio hefyd gwneud mwy o gydweithio, yn cynnwys collabs [collaborations] gyda skylrk (Hedydd Ioan) a Pypi Slysh, a hefyd mwy o bobl unigol. Dw i hefyd yn gobeithio cael y siawns i greu ffilmiau, os dw i’n gallu.
Beth yw eich cyngor i’r bandiau neu unigolion sydd eisiau mynd ati i gystadlu ym Mrwydr y Bandiau y flwyddyn nesaf?
Rydw i eisiau gweld mwy o fandiau ac unigolion yn arbrofi mwy gyda miwsig, sy’n dangos mwy o progression yn y diwydiant. Y cyngor fyddw i’n rhoi i bawb sydd eisiau cystadlu yw, beth bynnag y canlyniad, rydach chi wedi ennill os ydych chi’n rhoi’r ymdrech mewn i’ch holl waith a’ch miwisig. There’s nothing wrong with not winning!
Y band o’r Bala sy’ ffansi Brwydr
Yn ogystal â holi’r band buddugol eleni, mae Beth Pugh wedi bod yn holi un band ifanc sy’n bwriadu mentro i ffau Brwydr y Bandiau 2023. Triawd o’r Bala yw Lelog sy’n cynnwys Nel, Aiesha a Sioned…
Sut wnaeth Lelog gychwyn?
NEL: Wnaethom ni gychwyn yn MYGM [sef y cwrs preswyl ‘Merched Yn Gwneud Miwsig’ yng Nglan Llyn, y Bala] pan wnaeth rywun holi i ni: “Pam dydech chi ddim yn cychwyn band?”
Doedden ni ddim mor agos â hynny cyn MYGM, ond pan wnaethom ni gychwyn y band lawr yna, ddaru ni ddod yn agosach at ein gilydd. Roedden ni’n ffeindio fo’n lot haws i ysgrifennu hefo’n gilydd nag ar ben ein hunain. Rydan ni gyd gyda’n gilydd yn un brain cell!
Pa fath o fiwsig ydych chi’n greu?
AIESHA: Rydan ni’n gwneud ychydig o bopeth. Rydan ni’n cael ysbrydoliaeth gan bob math o artistiaid fel Adwaith, y Cledrau, Hana Lili a mwy. Mae’r rhan fwyaf o’n caneuon yn indi pop/roc, ac weithiau ychydig o emo!
Faint o brofiad sydd ganddoch chi yn y sîn miwsig Cymraeg ar hyn o bryd?
NEL: Rydan ni wedi gwneud gigs yn Bala, mewn pubs, a hefyd wnaethon ni berfformio mewn gig ‘Taith o Haf’ BBC Radio Cymru, a chael y siawns i berfformio yn Y Stag yn Sesiwn Fawr!
Ac rydan ni 100% eisiau recordio!
Sut oedd e’n teimlo i berfformio yn ‘Taith o Haf’ BBC Radio Cymru yn eich ysgol leol – Ysgol Godre’r Bala?
SIONED: Roedden ni’n joio pob munud! Cyn perfformio fyse ni’n nerfus iawn, ond wedyn tra yn perfformio roedden ni’n iawn. Roedd yr awyrgylch yn insane! Clywed pawb yn canu a dawnsio, does dim byd gwell!
Faint o hwb oedd y camp Merched Yn Gwneud Miwsig, lle wnes i eich cwrdd am y tro cyntaf, ac sy’n cael ei gynnal i gynyddu nifer y menywod yn y Sîn Roc Gymraeg?
SIONED: Wnaeth y camp preswyl helpu ni i ddod yn agosach at ein gilydd. Friendship!
Wnaethom ni gwrdd â llawer o bobl oedd hefo’r un diddordebau â ni, ac roedd e’n gwneud pethe’n hawdd i ni wedyn os oedden ni eisiau cysylltu gydag unrhyw un o’r camp preswyl am unrhyw gymorth neu helpu ein gilydd allan, fel ti [Beth Pugh] yn rhoi’r MIDI keyboards i ni!
Ydych chi’n edrych ymlaen i gystadlu ym Mrwydr y Bandiau 2023?
AIESHA: O ie! Eleni, roedd y gystadleuaeth yn anhygoel!
Rydan ni’n edrych ymlaen i weld sut y byddwn ni’n gwneud blwyddyn nesaf ac rydym yn edrych ymlaen i wneud mwy o ffrindiau tra yn cystadlu.
Beth oeddech chi’n feddwl o gystadleuwyr y ffeinal eleni? Wnaeth unrhyw un ysbrydoli chi mewn unrhyw ffordd i fynd ati i roi cais fewn at y flwyddyn nesaf?
AIESHA: Do! Roeddech chi’n nyts! Hollol briliant! Roedd o’n neis i weld mwy o dechnoleg yn cael ei defnyddio eleni. Pan wnaethon ni weld bod y band Llyffant wedi mynd trwyddo i’r rownd derfynol, roedd e wedi rhoi ychydig o ôl-fflach i pan oedden ni’n dewis enw i band ni. Roedd yr enw Llyffant ar ein list o enwau!
Pa fath o gerddoriaeth hoffech chi weld yn y ffeinal yn 2023?
NEL: Fyse ni yn hoffi gweld regge Cymraeg blwyddyn nesaf, a mwy o ferched hefyd! Mae’r sefyllfa gyda merched sy’n cystadlu yn gwella, ond maen nhw dal yn gallu gwneud mwy i annog merched i fynd ati a rhoi cais i fewn i gystadlu. Dyna pam roedden ni mor falch i weld ti ar y rhestr fer eleni!
Ydych chi’n meddwl eich bod chi’n barod am sialens Brwydr y Bandiau?
SIONED: Rydan ni’n gyffrous i gystadlu! Rydym yn meddwl y bydd yna fwy o gystadleuaeth yn y flwyddyn newydd, yn sicr oherwydd mae’r sefyllfa Covid wedi ymlacio. Mae mwy o fandiau wedi dechrau gwneud gigs, ac o bosib wedi dechrau paratoi at y gystadleuaeth.
AIESHA: Rydan ni’n meddwl fod ganddo ni siawns i fynd yr holl ffordd, gobeithio!
GAIR I GLOI GAN BETH
Mae’r sîn miwsig Cymraeg yn datblygu o nerth i nerth, ac mae’n deimlad da i wybod bod artistiaid fel Sachasom a’r prosiect Merched yn Gwneud Miwsig yn ysbrydoli llawer mwy o bobl i fynd ati i greu, a chystadlu mewn pethau fel Brwydr y Bandiau. Mae e’n meddwl llawer i fi gan bod dw i ddim ond yn 16 oed, ac yn hedfan yn y diwydiant yma yn gyflym ac yn gynnar iawn. Brwydr y Bandiau yw’r gystadleuaeth berffaith ar gyfer artistiaid newydd, a ma fe’n meddwl llawer i wybod fy mod i’n un o’r rhai sydd wedi ysbrydoli pobl ifanc i fynd ati i greu hefyd!
O fod yr unig ferch ifanc yn cystadlu yn rownd derfynol Brwydr y Bandiau eleni, i allu cael y siawns i sgrifennu ar gyfer y cylchgrawn yma, mae fe wir yn dangos faint o ddrysau mae Brwydr y Bandiau yn agor i bawb!