Mae Cymro Cymraeg yn llygadu buddugoliaeth mewn rali fawr yng Ngheredigion y penwythnos hwn…

Bydd Rali Bae Ceredigion yn cael ei chynnal am y tro cyntaf ers 2019 y penwythnos hwn. Dyma’r tro cyntaf iddi gael ei chynnwys yng nghalendr Pencampwriaeth Ralïo Prydain, a dim ond yr ail dro erioed iddi gael ei chynnal. Ac un sy’n llygadu llwyddiant nid nepell o dref ei febyd yw Osian Pryce.

Enillodd y Cymro Cymraeg o Fachynlleth y ras y tro diwethaf, ac mae’n dechrau’r tro hwn yn yr ail safle yn y Bencampwriaeth. Ar y brig mae Keith Cronin, sydd wedi ennill Pencampwriaeth Prydain bedair gwaith o’r blaen. Mantais fach sydd gan y Gwyddel ar bapur, ond cael a chael yw hi rhwng y Celtiaid wrth ystyried mai’r pum sgôr gorau yn unig allan o’r saith ras fydd yn cyfri ar ddiwedd y Bencampwriaeth.

Ar ôl iddo fe a’i gyd-yrrwr Noel Sullivan orffen yn ail yn y Bencampwriaeth y llynedd, mae Osian Pryce yn benderfynol o osgoi ailadrodd hynny eto y tymor hwn, ac yn dweud wrth golwg ei fod e’n teimlo’n hyderus ar gyfer y rasys sy’n weddill ar ôl gorffen rali’r Grampian yn yr ail safle’n ddiweddar hefyd.

“I fod yn deg, mae o wedi bod yn eitha’ gwd, lot gwell na blwyddyn dwytha’. Rydan ni yn amlwg wedi ennill dwy rali ac wedi diweddu’n ail ar ddwy rali, felly so far [y tymor hwn] ddim yn ffôl. Wrth gwrs, fydden ni’n licio ennill nhw i gyd. Ond fel mae amodau’n newid, roedden ni’n gynta’ ar y ffordd yn y rali ddiwetha’ ac roedd o’n anfantais, felly doedd yna ddim siawns o ennill honno. Roedd y graean yn eitha’ rhydd, mae o fel dreifio car ar farblis, so mae’r car tu ’nôl wedyn yn cael ffordd sy’n fwy glân ac mae o ’mond yn gwella wedyn efo pob car sy’n mynd drosto fo. Dydi o ddim yn digwydd ar bob rali, mae o jyst yn dibynnu ar y surface. Ond ar y cyfan, dw i’n meddwl bod pob dim wedi mynd yn dda iawn.”

Ar ôl Bae Ceredigion, dwy ras sy’n weddill yn y Bencampwriaeth, a’r rheiny yn Swydd Efrog ar Fedi 23 a 24 cyn dychwelyd i Gonwy ar gyfer Rali Cambria ar Hydref 29. Pa mor ffyddiog yw Osian Pryce, felly, y gall e gau’r bwlch ar ei brif wrthwynebydd ac ennill y Bencampwriaeth yn y pen draw?

“Eitha’ hyderus, i fod yn onest. Rydan ni wedi gwneud lot o’r ralïau sydd i ddod o’r blaen. Y tair rali nesa’ yma, dw i wedi’u gwneud nhw o’r blaen. Dw i wedi’u hennill nhw i gyd o’r blaen, efallai rhai ddim mor ddiweddar â’r lleill ond dw i’n credu bo ni mewn safle da, yn ail yn y Bencampwriaeth…

“Dw i’n edrych ymlaen i’r rali nesa’, sy’ wrth gwrs yn rali gartre’ ac mae’n neis bod yn rhywle cyfarwydd, a chael lot o gefnogaeth efo pobol sy’ efallai ddim fel arfer yn gwneud y siwrne i’r rali. Mae o’n mynd i fod yn reit neis.”

Yn ôl sylwebydd ralïo S4C, Emyr Penlan, mae Osian Pryce “yn dal yn y frwydr” ar hyn o bryd o edrych ar y Bencampwriaeth yn ei chyfanrwydd, ac fe ddylai allu ennill yng Ngheredigion.

“Mae Rali Bae Ceredigion ar stepen y drws i Osian, fe enillodd tro diwetha’ yn 2019. Dw i’n cymryd mai [car Osian Pryce] fydd y car cyntaf ar y ffordd achos mai fe yw’r reigning champion. I fi, Osian yw’r ffefryn.

“Mae e wedi’i fagu yn Llanfihangel, ac mae e’n nabod yr heolydd fel bod mantais gartre’ gyda fe. Mae lot o fois eraill o Gymru’n cystadlu hefyd, wrth gwrs, ond mae yna fantais o gymharu â’r bois Gwyddelig neu Ewropeaidd. Mae un o Seland Newydd yn dod draw sydd wedi cystadlu yn y ralïau uchaf. Ond rali gartre’ yw hwn i Osian.”

Bae Ceredigion – beth i’w ddisgwyl

Yn ôl Osian Pryce, mae Rali Bae Ceredigion yn “rali unigryw iawn”. Bydd pumed ras y Bencampwriaeth yn gyfuniad o ddau gymal ar y ffyrdd trwy ganol tref Aberystwyth, a dau gymal ar heolydd mynyddig y sir dros ddau ddydd a dwy nos y Sadwrn a’r Sul hwn. Bydd y cymalau mynyddig yn dechrau nos Sadwrn gyda 14 milltir ac yn cynnwys cymal mawr 17 milltir Llanfihangel ddydd Sul.

“Mae’n sialens wahanol i be’ rydan ni’n arfer ei gael yng Nghymru,” meddai Osian. “Fel arfer yng Nghymru, rydan ni jyst yn cael rali fforestydd a phethau felly. Ond ie, roedd hi wedi’i rhedeg yn 2019 am y tro cynta’, ond dw i’n credu bo nhw wedi dysgu lot o’r flwyddyn yna. Hon ydi’r ail flwyddyn mae hi wedi’i rhedeg, so dw i’n credu bo nhw wedi polishio fyny rhai pethau. Mae’n rali hirach, mae mwy o gystadleuaeth ac mae hi jyst yn mynd i fod yn fwy o sialens i ni i gyd ar y cyfan, i fod yn onest.

“Maen nhw wedi adio’r elfen o’r nos a’r cymal yng nghanol Aberystwyth hefyd, so maen nhw jyst yn trio gwella’r rali a’i gwneud hi’n fwy o her. Wrth gwrs, dyna be’ rydan ni isio, so dw i’n edrych ymlaen. Bydd yna ddigon o gyffro yna a bydd hi’n un lwyddiannus, dw i’n siŵr.”

Yn ôl Emyr Penlan, mae Rali Bae Ceredigion wedi “agor y drws” i ddenu mwy o ddigwyddiadau i Gymru, gan ddangos beth sydd gan y wlad i’w chynnig.

“Rali Bae Ceredigion oedd y closed roads event cynta’ i ddigwydd yng Nghymru. Mae e wedi agor y drws nawr. Mae heolydd tarmac gorau’r byd gyda ni, fel heolydd graean yn y coedwigoedd. Unwaith rwyt ti’n mynd mewn i ganolbarth Cymru, mae’r heolydd yna fel trac rasio, y rhan fwya’ ohonyn nhw. Mae’r dirwedd yn benthyg ei hun i rasio. Fel maen nhw’n dweud, the rolling hills of Wales. Mae natur y dirwedd jyst yn gwneud yr heolydd gyda’r corneli anhygoel i siwtio ralio.”

Ac mae’r trefnwyr i’w llongyfarch hefyd, meddai.

“Maen nhw’n torri tir newydd ac mae’n bluen yn het trefnwyr y rali. Mae’n uffar o beth trefnu rali. I gael rali ryngwladol o’r safon yma yng Ngheredigion, mae’n dipyn o gamp. Mae’r criw sy’ wrthi’n trefnu, gredech chi fyth pa mor galed maen nhw’n gweithio. Synnwn i ddim tasen nhw ddim wedi gweld eu gwragedd ers misoedd! Maen nhw’n gweithio pob awr. Mae pobol yn troi lan i watsio rali yn meddwl bod jyst cwpwl o farsials yn troi lan ar y dydd a’i wneud e, ond mae’n gymaint o waith. Mae eisiau rhoi parch iddyn nhw hefyd.”

Yn wahanol i ralïau’r coedwigoedd ac allan yng nghanol y wlad, bydd Rali Bae Ceredigion yn dod dipyn nes at y bobol, ac mae hynny i’w groesawu, meddai Osian Pryce.

“Be’ sy’n gwd am rali fel hyn, wrth gwrs, ydi dechrau yng nghanol y dre’ boblogaidd fel Aberystwyth. Be’ maen nhw’n ddweud yn Saesneg? ‘Bring the rally to the people’. Pan maen nhw yn y fforestydd, mae’n eitha’ anodd i bobol fynd i wylio, o ran teuluoedd sy’ ddim yn deall neu sy’ â dim cymaint o ddiddordeb. Heblaw bo chi’n ffan rali mawr, dydych chi ddim yn mynd i wneud y trip, ond y ffaith bod yna gymal yn Aberystwyth a gyda’r rali ’mond yn mynd rhyw ddeg milltir o Aberystwyth ar y cyfan, mae’n eitha’ gwd i bobol leol i gael ei gweld hi.”