Roedd Maes yr Eisteddfod yn Nhregaron yn frith o arwyddion yn cyfeirio at ddywediadau lleol bro’r brifwyl.

Y syniad oedd sbarduno trafodaeth am dafodiaith Ceredigion gyda chyfuniad o briod-ddulliau o ogledd, canol a de’r sir.

“Roedd yn bleser clywed pobl o bob cwr o Gymru yn eu trafod ac yn cymharu’r gair cyfystyr o’u hardal nhw,” medd Cyngor Sir Ceredigion, a fu’n gyfrifol am eu gosod.