Fe gollodd Senedd Cymru un o’i haelodau cyntaf yr wythnos hon wrth i’r Democrat Rhyddfrydol Mick Bates drigo yn 74 oed.

Cafodd ei ethol i gynrychioli Sir Drefaldwyn yn etholiadau cyntaf Cynulliad Cymru yn 1999 a bu yn y swydd tan 2011.

Cyn dod yn Aelod o’r Cynulliad, bu’n athro, ffermwr a Chynghorydd Sir dros y Democratiaid Rhyddfrydol.

Tra yn y Cynulliad, fe ymgyrchodd tros arian ychwanegol i ysgolion gwledig a gwell isadeiledd yn y canolbarth.