Weithiau, mae gorffennol Gwenno’n teimlo fel petai’n llusgo’n bwysau trwm y tu ôl iddi ble bynnag mae hi’n mynd. Dim bob amser. Ambell dro bydd hi’n ysgafn droed unwaith eto, dim ond i rywbeth bach ddigwydd – sŵn uchel, diniwed sy’n ei hatgoffa o’r bomiau bychain a arferai ffrwydro yn ei chartref, efallai. Dadl-lleisiau-tynn rhwng dau gariad ym maes parcio’r archfarchnad. Mae gymaint o bethau yn ei thynnu hi’n ôl i’r trymder.