Wrth i’r byd gorllewinol ganolbwyntio ar ynni a’i bris, mae’r tywydd poeth yn ein hatgoffa ni am faes allweddol arall a fydd, o bosib, lawn mor dyngedfennol yn y dyfodol agos.

Ers blynyddoedd, mae rhai arbenigwyr wedi bod yn rhybuddio mai dŵr ydi’r olew nesa’ – y cynnyrch a fydd yn ystumio gwleidyddiaeth, yn creu neu chwalu economïau ac yn achosi rhyfeloedd.