Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar y golofn bwysig hon, i bawb gael blas o’r arlwy…

Mae yna fwy nag ychydig o debygrwydd rhwng Jamaica a Chymru. Mae gan y ddwy wlad boblogaeth o tua tair miliwn; mae ganddyn nhw hanes o bobol yn gorfod gadael i chwilio am waith; mae gan y ddwy wlad draethau syfrdanol, ac mae’r ddwy yn enwog am eu cariad at gerddoriaeth. Mae’r enw ‘Jamaica’ yn golygu ‘Gwlad y Coed a’r Dŵr’.

Enillodd Jamaica annibyniaeth yn 1962. Bu’n frwydr hir a phoenus dros gydraddoldeb, a sylweddolwyd o’r diwedd yn dilyn diddymu caethwasiaeth, oherwydd ysbryd di-dor pobl fel Nanny of the Maroons, ac yna, gweithredu gan rai fel Marcus Garvey tros hawliau sifil pobl. Does ryfedd eu bod yn dal i gael eu hystyried yn arwyr cenedlaethol yn Jamaica.

Er mwyn deall stori annibyniaeth Jamaica, rhaid mynd yn ôl i 1509, pan benderfynodd y Sbaenwyr fod Jamaica yn perthyn iddynt hwy. Roedd y bobl frodorol, yr Arawak a Taino, wedi dirywio yn enbyd ac ar fin diflannu oherwydd y cam-drin gan eu goresgynwyr.

Yr ateb Sbaeneg i hyn? Dechreuon nhw herwgipio pobl gorllewin Affrica a’u gorfodi i weithio yn Jamaica. Nid oedd y bobl yma yn eilradd. Wnaeth hi gymryd llawer o ddynion ac arfau i’w gwladychu.

Ym 1655, gwelodd y Prydeinwyr fanteision ariannol ‘bod yn berchen’ ar Jamaica ac ni threuliodd lawer o amser yn trechu’r Sbaenwyr a chymryd rheolaeth o’r wlad.

Yr hyn a ddilynodd oedd trefn greulon o fasnachu mewn pobl, artaith, trais rhywiol a gweithio pobl mor galed nes eu bod yn marw.

Ar gefn y creulondeb hwn wnaeth pobl Prydain elwa a chael cartrefi urddasol ac adeiladau trawiadol. Roedd eu cyfoeth yn deillio o werthu siwgr, rym a bwydydd egsotig fel pîn-afal. Defnyddiwyd copr Cymreig fel math o arian i’w gyfnewid am gaethweision. Darparodd gweithfeydd haearn Cymreig y canonau a laddodd gannoedd o frodorion gorllewin Affrica a fu yn ceisio achub anwyliaid rhag cael eu cipio. Roedd rhai Cymry yn berchnogion planhigfeydd a chaethweision.

O gychwyn cyfnod Prydain yn rheoli Jamaica, roedd yna rai a lwyddodd i ddianc o’r planhigfeydd a chuddio. Fe gawson nhw fywydau caled, ond roedden nhw yn rhydd. Wrth i’w niferoedd gynyddu, byddent yn codi a rhyddhau eraill. Erbyn 1728, cyrhaeddodd y gwrthryfeloedd hyn ei anterth, ac roedd yn syndod i’r Prydeinwyr.

Yn aml mae diddymwyr caethwasiaeth gwyn yn aml yn cael eu hamlygu fel y rhai fu’n allweddol i ddod â chaethwasiaeth Jamaica i ben. Ond, y gwir yw, roedd yna lawer o ymladd tros barhau gyda chaethweision. A dim ond pan nad oedd bellach yn gwneud synnwyr yn economaidd i barhau gyda’r arferiad anwar, y gwnaethon nhw ddiddymu caethwasiaeth ym 1838. Fodd bynnag, roedd pobl gwyn o Brydain yn parhau i reoli’r gyfraith, tr economi a’r eiddo yn Jamaica.

Fe gymerodd hi gan mlynedd arall a gwrthryfel ymosodol cyn i Lywodraeth Prydain gymryd sylw o’r anghydraddoldebau yr oedden nhw wedi’u creu.

Trwy’r 1950au, cynyddodd hunanlywodraeth Jamaica, ffurfiwyd cabinet o weinidogion, ac etholwyd Prif Weinidog. Terfyn y daith oedd annibyniaeth i Jamaica yn 1962.

Talodd y Prydeinwyr filiynau mewn iawndal i fasnachwyr a pherchenogion caethweision, ond dim byd i’r dioddefwyr. Amcangyfrifir bod hyn yn golygu bod Prydain yn dal i fod mewn dyled i Jamaica, ac yn seiliedig ar y taliadau a wnaed ganddyn nhw i fasnachwyr caethweision yng nghanol y 1800au, dylai hyn fod tua £7.6 biliwn. Fodd bynnag, ychydig iawn o ddiddordeb y mae Llywodraeth Prydain wedi’i ddangos mewn rhoi peth o’r arian a gawsant trwy gipio a chaethweisio yn ôl.

Heddiw, mae economi Jamaica yn dibynnu ar dwristiaeth, ffermio, bocsit ar gyfer cynhyrchu alwminiwm, a mariwana ar gyfer cwmnïau fferyllol.

Caiff annibyniaeth Jamaica a’r rhai sy’n alltud o’r wlad yn flynyddol ar y chweched o Awst, ond mae yna rai sy’n dal i deimlo y byddai wedi bod yn well i’r wlad o fod wedi parhau dan reolaeth Prydain.

Fel Cymraes Jamaicanaidd, ni allaf beidio meddwl, tybed sut fuasai annibyniaeth Cymru yn edrych? Mae gennym adnoddau y mae gweddill Prydain yn eu gwerthfawrogi. Mae ein dŵr a’n hynni gwyrdd yn sicr yn bwysig ac, fel Jamaica, rydym hefyd yn dibynnu’n fawr ar dwristiaeth.

Nid dechrau o safbwynt ailadeiladu ar ôl caethwasiaeth fyddai ein man cychwyn. Tybed?

Cylchgrawn Golwg yn ddigidol ar y We

Os ydych chi eisiau darllen erthyglau cylchgrawn Golwg ar y We, ewch i fan hyn:

Tanysgrifiwch i Golwg a Golwg+ (360.cymru)