Mae Golwg wedi codi’r wal dalu – pay wall – ar y golofn hon, i bawb gael blas o’r arlwy…

Wel! Dyna beth gwych oedd Eisteddfod Tregaron.

Pawb wrth eu bodd, yn ôl ar y Maes – yn mwynhau sgwrs efo hen ffrindiau dros blatiad o fwyd iach No Bones Jones.

Ac fel pob athronydd a pherson deallusol arall yn yr ŵyl, fe wariais 80% o f’amser yn eistedd ym moethusrwydd pebyll Cymdeithasau 1 a Chymdeithasau 2 – yn gwrando ar bob math o arbenigwyr (hurt a chall) yn trafod ystod eang o bynciau. Megis tai, dyfodol y Gymraeg, economi cefn gwlad Cymru, tai, yr economi, y Gymraeg ac, wrth gwrs, tai.

A gwych o beth oedd cael ymddangos ar Pawb a’i Farn – a chael fy heclo gan fy nhad-yng-nghyfraith [Heini Gruffudd] – nid am y tro cyntaf, ac nid am y tro olaf – wrth i mi drafod mudo pobl ifanc o’u cymunedau i flesh-pots Caerdydd.

Gofynnodd un llanc ifanc gwestiwn ar y rhaglen am gyffuriau. Problem sy’n tyfu yn Nhregaron, meddai, diolch i bobl ddiarth yn dod yno a gwerthu cyffuriau i’r to ifanc.

Mae’n wir fod gangiau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig yn gwneud elw mawr wrth werthu pob math o gyffuriau, yn enwedig canabis, cocên a heroin.

Ond mae hefyd yn wir fod mwy a mwy o wledydd y byd wedi cyfreithloni gwerthu canabis o dan amgylchiadau wedi eu rheoli’n ofalus. Gallwch brynu canabis ar gyfer defnydd hamdden yng Nghanada, Georgia, Malta, Mecsico, De Affrica, Thailand, Uruguay ac 19 o daleithiau Gogledd America. Ac er nad yw’n gyfreithiol i’w werthu, fe ddadgriminaleiddiwyd ei werthu ar gyfer defnydd hamdden mewn 21 gwlad arall. Mae hefyd yn gyfreithiol i’w werthu ar gyfer defnydd meddygol mewn 41 gwlad ychwanegol.

Ond beth am y niwed seicolegol ac ati? Onid yw’n wir fod smygu canabis yn gallu gwneud cryn dipyn o niwed i ambell i ddefnyddiwr?

Yr un fath â gor-yfed, gor-fwyta a gor-yrru. Mae yna beryglon o’n cwmpas ym mhob man – ond rydan ni’n hapus i fyw efo’r risgiau.

Yn y cyfamser, mae risgiau canabis i’n pobl ifanc yn uwch nag sydd angen iddynt fod, gan fod y gangiau sy’n ei werthu yn cynnig mathau cryf iawn o’r planhigyn (megis Skunk, sydd â lefel Tetrahydrocannabinol – THC – hyd at 22%). Yn ogystal â hyn, mae yna dystiolaeth eu bod yn ychwanegu heroin at y canabis, er mwyn sicrhau bod eu cwsmeriaid yn dod yn gaeth i’r cynnyrch.

Risg arall, wrth gwrs, yw bod y gangiau’n cynnig one-stop-shop ar gyfer canabis, cocên a heroin. A does ddim unrhyw fath o reoli ansawdd na phurdeb y cyffuriau.

Mewn gwledydd lle mae canabis wedi ei gyfreithloni, mae modd gwybod yn union beth sydd ar werth – efo’r siopau’n gwerthu canabis efo cyn lleied â 6% o THC. Gellir ymddiried ym mhurdeb y cynnwys – a bod yn saff nad yw’n cynnwys heroin. Yn ogystal â hyn, mae’r siopau’n cynnig dulliau mwy saff i’w ddefnyddio, lle nad oes angen ei gymysgu efo tybaco i’w smygu.

Ni fyddwn byth yn ennill y rhyfel yn erbyn cyffuriau. Mae’r elw sydd i’w wneud mor anferthol – tua £9 biliwn y flwyddyn ym Mhrydain – ac fe ddaw gang ar ôl gang i’r farchnad i gymryd lle unrhyw un a roddir yn y carchar.

Ac yn y cyfamser, mae tua 30% o’r boblogaeth rhwng 16 a 59 wedi defnyddio canabis ar ryw bwynt.

Beth am ei gyfreithloni yma, felly?

O ran cefn gwlad Cymru, dyma gyfle euraidd i roi hwb enfawr i’r economi – a chreu miloedd o swyddi.

Fe dyfodd ffermwyr talaith Washington yn yr Unol Daleithiau (7.5 miliwn o bobl) gwerth $653 miliwn o ganabis yn 2019, wrth dyfu 561,000 pwys o’r planhigyn. Yn dibynnu ar safon y cynnyrch, gellir gwerthu pwys o ganabis am $3,400 – o’i gymharu â $5 am bwys o domatos.

Ar ben hyn, gall cyfreithloni canabis gynnig hwb enfawr i’r diwydiant twristiaeth. Yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, amcangyfrif fod twristiaeth canabis yn werth $19bn – $4.5bn yn uniongyrchol i’r diwydiant canabis – a $12.6bn i westai, bwytai, siopau ac atyniadau eraill.

Dychmygwch y ffortiwn a fyddai ar gael i ffermwyr a busnesau Cymru, pe fyddwn yn cyfreithloni tyfu a gwerthu canabis.

Gall ddod ag arian a swyddi i’n cefn gwlad – a gwarchod ein cymunedau Cymraeg.

Ac fe all lenwi’r diffyg ariannol sylweddol a wynebir gennym pe ddaw Cymru’n wlad annibynnol.

Gwlad y gân-ja!

Cylchgrawn Golwg yn ddigidol ar y We

Os ydych chi eisiau darllen erthyglau cylchgrawn Golwg ar y We, ewch i fan hyn:

Tanysgrifiwch i Golwg a Golwg+ (360.cymru)