Mae Golwg wedi codi’r wal dalu – pay wall – ar yr erthygl hon, i bawb gael ei mwynhau…
Mae ffotograffydd, ac ŵyr i un o gymeriadau amlycaf byd amaethyddol Ynys Môn, yn dogfennu ffordd o fyw sydd ar newid.
Trwy dynnu lluniau priodasau mae Morgan Owen yn gwneud ei fara menyn, ond mae tynnu lluniau o gymeriadau’r sêl a’r ffermydd yn ddiléit iddo hefyd.
Bodorgan ar Ynys Môn ydy cartref Morgan, ac mae’r teulu wedi bod yn byw yno ers i’w daid symud i fferm Trefri yn blentyn.
Roedd ei daid, Iolo Trefri, yn destun pennod o Cefn Gwlad yn ddiweddar ar S4C, ac mae yn adnabyddus fel ffermwr a dyn busnes ym Môn… ac fel tad y digrifwr Tudur Owen.
Ar Fferm Trefri efo’i daid fuodd Morgan ar ôl astudio Amaeth yng Ngholeg Glynllifon, ond roedd wastad yn mwynhau tynnu lluniau defaid, cŵn defaid a’r ffordd o fyw ar y fferm.
“Fe wnaeth bobol ddechrau fy nhalu i am brintiau ac un neu ddau o bobol yn gofyn i fi dynnu lluniau priodasau. Aeth pethau o fan honno, ac fe wnes i sylwi bod yn well gen i dynnu lluniau na ffarmio,” eglura Morgan.
“Tua dechrau Covid, ddeudais i wrth Taid fy mod i eisiau tynnu lluniau llawn amser, ac roedd o’n gwbl gefnogol ac fe wnaeth o ddweud: ‘Gwna be ti’n enjoio’i wneud, ac mi wnei di weithio fo allan’. Doedd o ddim yn gweld bai arna i am stopio ffarmio. Ti’n gorfod rili bod eisiau [ffarmio] am byth i’w wneud o’n iawn. Mae o’n cymryd pob dim o dy fywyd, ac os ti ddim yn cael y pleser yn ôl ohono fo… be ydy’r pwynt?”
Mae ei daid, sydd newydd ddathlu’r 90 oed ac wedi prynu tŷ tafarn ym Malltraeth, yn ddylanwad mawr ar Morgan.
Yn yr 1950au prynodd tad Iolo fferm Glantraeth ar Ynys Môn, ac ar ddechrau’r 1970au penderfynodd Iolo droi’r hen siediau yno’n llwyfan i nosweithiau llawen ac yn fwyty.
Am gyfnod, buodd yn cynnal ‘sŵ’ ar y fferm hefyd – hanes sy’n sail i sioe gomedi a chyfrol gan Tudur Owen, ei fab – a chyfeiriwyd ati fel ‘the worst zoo in Britain’ yn The News of the World ar ôl iddyn nhw ymweld a dod ar draws llew digalon.
“Dw i dal i wneud ambell i job tynnu lluniau i Taid, o’i feheryn o, a wir rŵan, fo ydy critic mwyaf harsh fi!” meddai Morgan.
“Mae ganddo fo rywbeth i’w ddweud am bob llun. Dw i wedi gwneud cannoedd o jobsys i bobol eraill rŵan, a fo ydy’r un mwyaf critical, bendant!
“Ond, mae ei ddylanwad o’n anferth. Mae o wedi dysgu fi i jyst gwneud be dw i rili’n mwynhau ei wneud. A dwyt ti ddim yn gwybod be ti’n gallu ei wneud heb law dy fod yn trio, dw i’n meddwl mai dyna ydy’r wers fwyaf. Ac i beidio dweud ‘Na’. Fe wnes i ddysgu lot ganddo fo o jyst ei weld o’n mynd drwy ei fywyd yn dweud ‘Ia’ i bob dim a ffeindio allan sut i’w wneud o wedyn. Os dydy o ddim yn gweithio, dim ots na, ti’n gwybod wedyn bod o ddim yn gweithio. Fel hynny mae o wedi bod ar hyd ei oes.
“Mae gen i deulu ifanc ar y ffordd, ac mae ffotograffiaeth wedi galluogi fi i fyw yn fwy hyblyg i be dw i eisiau ei wneud,” meddai Morgan, sy’n disgwyl merch fach ym mis Hydref gyda’i bartner, Katherine.
“Fydd [ffotograffiaeth] yn ffordd well i fi gael treulio amser efo’r teulu fel mae’r teulu’n tyfu.”
Cymeriadau’r sêl
Un o hoff lefydd Morgan i dynnu lluniau ydy’r sêl da byw, ac mae’n rhannu nifer o’i luniau ar ei gyfrif Instagram @morganowenphoto.
“Mae o’n rhan o ffordd o fyw Cymru. Mae o’n subculture bach, ac oni bai bod chdi’n rhan ohono fo ac yn byw yn y byd hwnnw, dwyt ti ddim yn ei weld o. Dw i’n licio tynnu lluniau o fan honno i bobol eraill ei weld, ac mae’n ddogfen
o’r diwydiant ffarmio. Dw i’n licio gallu ei rannu efo pobol sydd ddim yn ei weld o bob tro.
“Lot o’r hen ffermwyr a ballu, does yna ddim llawer o luniau ohonyn nhw wrthi’n gwneud eu gwaith felly mae o’n ddogfen reit dda ohonyn nhw. Mewn ugain mlynedd bydd pobol yn gwerthfawrogi lluniau fel hyn, gobeithio. Mae hi’n ffordd o fyw sydd yn newid, gobeithio y bydd hi dal efo ni mewn ryw fath o ffordd… ond yn bendant fydd o’n wahanol.”
Yn amlach na pheidio, dydy’r ffermwyr ddim yn or-hoff o gael tynnu eu lluniau.
“Maen nhw i gyd yn adnabod fi, mae hynny’n help – drwy’r cefndir sydd gen i mae pawb [yn y sêl] yn gwybod pwy ydw a be dw i’n ei wneud felly maen nhw ychydig bach fwy relaxed o gwmpas fi. Tasa nhw’n gweld ryw foi sy’n amlwg ddim yn ffarmwr yn troi fyny efo camera mawr, dw i’n meddwl fysa nhw ychydig bach mwy sceptical. Ond maen nhw adnabod fi felly maen nhw’n trystio fi ychydig bach.”
Cymeriadau’r sêl, a’r bobol mewn priodasau, sy’n hawlio prif sylw camera Morgan erbyn hyn, er mai’r bwriad cychwynnol oedd tynnu lluniau o dirluniau.
“Pan wnes i ddechrau tynnu lluniau i ddechrau roeddwn i reit swil. Roeddwn i wedi arfer ffarmio, felly roeddwn i wedi arfer bod ar ben fy hun a ddim yn gorfod delio efo gymaint o bobol. I fynd o hwnnw i dynnu lluniau priodasau, mae o’n hollol wahanol. Dw i’n meddwl mai tynnu lluniau sydd wedi fy helpu i i deimlo’n fwy cyfforddus o gwmpas pobol a siarad efo pobol.
“I ddechrau roeddwn i eisiau trio gwneud pres o jyst gwerthu lluniau o olygfeydd a pheidio gorfod delio efo pobol, ond wnes i sylwi’n reit sydyn nad oes yna fath o bres yn hynny. A dw i ddim wir yn ei fwynhau o, ddim gymaint â dw i’n mwynhau tynnu lluniau pobol.”
O bryd i’w gilydd, mae Morgan yn tynnu lluniau o anifeiliaid er mwyn cael eu cynnwys mewn catalogau sêl, a her fwyaf y gwaith ydy trio cyfleu gwir safon yr anifail.
“Dw i’n deall o fy nghefndir i faint o waith sy’n mynd mewn i fridio’r anifail a’i gael o i’r safon lle mae o’n barod i dynnu’i lun i’w roi mewn catalog sêl, felly dw i eisiau gwneud yn siŵr bod y defaid yn edrych ar eu gorau i’r ffermwyr,” eglura Morgan.
“Heblaw eich bod chi wedi’i wneud o, does yna ddim lot o bobol yn deall faint o waith ydy ffarmio mewn gwirionedd. Mae pawb yn dweud: ‘O, mae o’n waith caled’. Ond oni bai eich bod chi wedi’i wneud o dydych chi ddim yn deall o ddifrif faint o waith ydy o. Dim jyst faint o waith ydy o, ond dydyn nhw ddim yn cael eu gwerthfawrogi gymaint ag y dylsa nhw. Maen nhw’n easy target braidd.”
Dogfennu’r diwrnod mawr
Er bod tynnu lluniau o sêl da byw a phriodasau yn ymddangos fel dwy gamp cwbl wahanol, nod Morgan yn y ddau le yw dal profiadau ac amgylchiadau naturiol ac organig.
“Pan dw i’n gweld ffermwyr yn sêl a dw i’n gweld yr un bobol mewn priodasau, mae’n ddoniol eu gweld nhw mewn siwtiau ac wedi gwisgo fyny ychydig gwell nag ydyn nhw yn y sêl,” meddai.
“Mae’n swnio’n cheesy, ond dw i’n gwneud pobol yn hapus gyda fy job. Pan dw i’n danfon lluniau iddyn nhw, neu hyd yn oed ar ddiwrnod priodas fe wna i dynnu lluniau yn y bore ac yn y seremoni. Ac yn ystod y bwyd fe wna i editio rywfaint ar fy ffôn yn sydyn a’u dangos nhw i’r cwpwl, jyst y ddau ohonyn nhw… yn aml iawn maen nhw’n crio, neu mae’n effeithio nhw. Dyna dw i’n licio, sut mae fy lluniau i’n gwneud i bobol deimlo – sy’n swnio’n rili pretentious.
“Dw i’n creu atgofion o bobol ar eu diwrnodau hapusaf, gobeithio… oni bai fy mod i’n sêl ac mae’r prisiau rybish ac mae’r lluniau o bawb yn edrych yn flin. Er, mae’r rheiny’n lluniau da hefyd.
“Dw i ddim yn rhoi lot o amser mewn i [feddwl am y llun], dw i’n licio’r look mwy naturiol. Dw i ddim yn licio gwario gormod o amser ar lun, achos dw i eisiau iddo fo edrych reit debyg i sut oedd o’n edrych i fi. Dyna ydy’r job. Dw i ddim yn licio mynd i rywle efo llun yn fy mhen o be dw i’n drio’i gael a thrio copïo hwnnw, achos wneith o byth weithio.
“Dydy o byth yr un fath â be ti eisiau. Ond fel arfer mae o’n well achos mae byd natur yn gweithio fo allan rywsut. Y mwyaf ti’n trio directio pobol i wneud be ti eisiau iddyn nhw wneud, y pellaf i ffwrdd o be dw eisiau ei ddal dw i’n gael. Dw i eisiau bob dim yn hollol naturiol, yn ddelfrydol.”
Cylchgrawn Golwg yn ddigidol ar y We
Os ydych chi eisiau darllen erthyglau cylchgrawn Golwg ar y We, ewch i fan hyn: