Rhywsut, er yr holl fanteision ddylai fod ganddyn nhw, mae Llafur yn llwyddo i gythruddo’r blogwyr lawn cymaint ag y mae’r Ceidwadwyr. Y broblem iddyn nhw ydi fod plaid Keir Starmer fel petai’n dynwared y Torïaid yn rhai o’r pethau gwaetha’. Gwrthwynebu streiciau, er enghraifft…

“Mae’n ymddangos nad polisi Llafur yw dadlau y dylai gweithwyr gael codiadau cyflog sydd o leia’ ar lefel chwyddiant. Yr unig gasgliad yw… mai polisi Llafur yn awr yw y dylai gweithwyr dderbyn codiadau cyflog llai na chwyddiant a bod yn ddiolchgar am y cwymp canlynol yn eu safonau byw. Mae’n ymddangos hefyd mai’r polisi Llafur yw fod gan weithwyr bob hawl i atal eu llafur mewn ymgais i warchod eu safonau byw, ond na ddylen nhw fyth arfer yr hawl rhag ofn i hynny greu anhwylustod i eraill… dyw rhedeg o gwmpas mewn cylchoedd llai a llai ddim fel arfer yn arwain at ganlyniadau da ac efallai na fydd rhai sy’n gwneud hynny yn hoffi ble y byddan nhw’n gorffen.” (John Dixon ar borthlas.blogspot.com)

Yn yr Alban, ymgais Llafur i gystadlu yn erbyn y Ceidwadwyr yn eisteddfod Prydeindod sy’n poeni Mike Small…

“Bellach, wrth i’r ‘wlad’ alw’n llythrennol am newid, maen nhw’n cael eu cyflwyno gyda rhaglen sy’n union fel un y Ceidwadwyr (nid y Ceidwadwyr Chwyldroadol gwallgo presennol ond yr hen Dorïaid cyn Brexit)… bydd rhaid i ni ddychwelyd at genedlaetholdeb a Phrydeindod gorfodol – sy’n cul de sac diwylliannol ac etholiadol.” (bellacaledonia.org)

Ac mae Ifan Morgan Jones yn gweld yr un neges yng ngalwad Keir Starmer am ddydd gŵyl ‘cenedlaethol’ i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed menywod Lloegr…

“… y dacteg amlwg yma yw ceisio bachu llwyddiant Lloegr i wasanaethu buddiannau gwleidyddol Starmer, sef hybu’r Undeb yng Nghymru a’r Alban. Dyw gwleidyddion a chyfryngau Prydain/Lloegr jyst ddim yn deall cymaint o ddrwgdeimlad y mae hynny’n ei greu… mae cael eich plagio a’ch poeni i gefnogi tîm sy’n golygu dim i chi yn troi difaterwch yn ddrwgdeimlad.” (nation.cymru)

Ac, yn ôl Sefydliad Bevan, mae dadansoddiad o boblogaeth Cymru yn dangos bod gan y Llywodraeth Lafur yma ddigon o waith i’w wneud, gan fynd i’r afael â…

“Mwy o dwf cytbwys ledled Cymru ac, yn enwedig, atal colli poblogaeth o ardaloedd gwledig a Blaenau’r Cymoedd; y cyfle y mae llai o blant 0-4 yn ei roi i leihau meintiau dosbarth… potensial addysg uwch i ddenu a chadw oedolion ifanc; cyfleoedd yn ogystal â chostau poblogaeth sy’n heneiddio.” (bevanfoundation.org)

Dadansoddiad o ystadegau gwahanol sydd gan Dafydd Glyn Jones – mae wedi edrych ar gefndir gwaith holl Archdderwyddon Cymru tros y blynyddoedd a datgelu’r hyn allai fod yn sgandal fawr. Dyma frig y tabl…

“Oriadurwr 1; Ffermwr 1; Argraffwr a Chyhoeddwr 1; Gweinidogion Wesle 2; Pregethwyr Bedyddwyr 2 (1 Gweinidog ac 1 Athro Coleg); Cyfreithwyr 3; Gweinidogion M.C. 4; Addysgwyr 7 (un yn llyfrwerthwr hefyd); Gweinidogion Annibynwyr 12!! WAW! Be wnewch chi o hynna, ddarllenwyr?” (glynadda.wordpress.com)