Er bod yna fwy o ferched nac erioed yn perfformio ar faes yr Eisteddfod eleni, mae yna agweddau negyddol yn dal i fodoli tuag atyn nhw yn y sîn roc a rôl.

Dyna farn Rheolwr ‘Merched yn Gwneud Miwsig’, sy’n bartneriaeth rhwng Clwb Ifor Bach a Maes B, ac yn rhoi cyfleoedd hyfforddi a gweithdai i ferched ynglŷn â’r Sîn Roc Gymraeg

Dim ond artistiaid benywaidd sy’n perfformio ar brif lwyfan Maes B nos Wener, sef Eden, Tara Bandito, Eädyth a Mali Haf.