Roedd safon y goreuon yng nghystadleuaeth y Goron yn Nhregaron eleni yn ‘uwch nag arfer’ ym marn y beirniaid.

Fe fyddai Cyril Jones, Glenys Mair Roberts a Gerwyn Wiliams wedi bod wrth eu bodd yn coroni’r tri a ddaeth i’r brig, sef ‘Kairos’, ‘Dyn Bach Gwyrdd’, a ‘Samiwel’.

Ond roedd y tri yn gytûn, yn annibynnol o’i gilydd, taw ‘Samiwel’, sef Esyllt Maelor o Forfa Nefyn, a oedd yn haeddu’r Goron o gafodd ei chreu gan yr artist Richard Molineux.