Nid yw Dafydd Wigley yn cnoi cnau gweigion.
Pan mae’r Barwn Wigley o Gaernarfon yn dweud ei ddweud, rhaid gwrando.
Bu yn gynghorydd sir ym Merthyr Tudful cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol Arfon yn 1974, a daeth yn un o aelodau’r hyn oedd yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999.
Mae ganddo hanner canrif a mwy o brofiad yn y byd gwleidyddol.
Mae ei hunangofiant mewn pedair cyfrol swmpus – O Ddifri, Maen i’r Wal, Dal Ati a Be Nesa! – ac mae wedi gweld a phrofi llawer mwy na’r rhan fwyaf ohonom ni.
Yn ddiweddar mae wedi ymrafael gyda chwestiwn pigog sy’n poenydio cenedlaetholwyr – sut i ddelio gyda’r Teulu Brenhinol mewn Cymru Annibynnol?
Yn hanesyddol mae’r teulu bach breintiedig o Balas Buckingham wedi llwyddo i greu rhaniadau enbyd ar brydiau yng Nghymru.
Ewch yn ôl i arwisgiad Charles yn Dywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1969, ac roedd cenedlaetholwyr fel Dafydd Iwan dan y lach gan ei gyd-Gymry am ganu cân yn gwneud hwyl am ben Carlo.
Ers hynny mae’r rhelyw o genedlaetholwyr wedi osgoi trafod y Teulu Brenhinol, er mwyn peidio pechu pleidleiswyr sydd o blaid parhad yr iaith Gymraeg ond sydd HEFYD yn hoffi’r Frenhines a Wil a Cêt ac ati.
Mae ambell i ‘sgodyn wedi meiddio nofio yn groes i’r llif, megis Leanne Wood a gafodd ei thaflu allan o’r hyn oedd yn Gynulliad Cymru gan Dafydd Elis-Thomas, a hynny am wrthod parchu ymweliad y Frenhines i agor ein Senedd.
Ond ychydig iawn, iawn o Bleidwyr sydd wedi trafferthu cwyno am y Teulu Brenhinol yn gyhoeddus.
Yn syml, pregethu i’r cadwedig fyddai lladd ar Liz Windsor – does dim fôts newydd yn y peth.
A dyma le mae craffter a chrefft gynhenid y gwleidydd greddfol ag ydy Dafydd Wigley yn dod i’r amlwg.
Er mwyn cael Cymry llugoer i gynhesu at y syniad o fyw mewn gwlad annibynnol, mae wedi gwyntyllu’r syniad o gadw’r Teulu Brenhinol mewn Cymru Rydd, yn bont i hwyluso ein perthynas gyda Lloegr a’r Alban.
“Y realiti yw, yn yr ynysoedd hyn, hyd yn oed os yw’r Alban a Chymru a Lloegr yn wledydd annibynnol, y bydd yn rhaid i ni gael rhyw ffordd o gydweithio â’n gilydd ar faterion sy’n bwysig,” meddai’r Barwn Wigley ar raglen Newyddion S4C.
“Rydan ni hefyd yn derbyn, mae’r Blaid yn derbyn yng Nghymru, mae’r SNP yn derbyn yn yr Alban, y bydd y frenhiniaeth yn aros.
“Dylai gwaith y Frenhines fod yn wahanol i Gymru a’r Alban nag ydyw ar hyn o bryd – dylai fod yn fwy tebyg i’r hyn mae hi’n ei wneud yn Seland Newydd.
“Ond rydym yn parchu hynny fel math o gyswllt sy’n dangos ein bod yn cydnabod y berthynas sydd wedi bod gyda Lloegr. Ond fe fyddai’r pŵer ymarferol o ddydd i ddydd yn nwylo Cymru.”
Mae yna lot fawr o Gymry sydd wrth eu boddau gyda’r Teulu Brenhinol, a byddai eu denu i gorlan Annibyniaeth yn strocan a hanner a hwb anferthol i griw YesCymru.
Difyr gweld faint fydd yn llyncu’r abwyd…