Bob hyn a hyn mi fyddwn ni’n codi’r wal dalu – pay wall – ar ambell un o golofnau cylchgrawn Golwg. A dyma gyfle i bawb fwynhau colofn Garmon Ceiro yr wythnos hon…

Unwaith eto’r wythnos hon ry’ch chi’n ymuno â fi ar drên – ma’n troi’n habit, ond fydda’ i ddim yn cwyno am yr un yma, gan fy mod ar hyn o bryd yn gwibio am 300 cilomedr yr awr tra’n yfed gwin coch. Ydw, dw i ar wyliau yn Ffrainc, ac fel bob tro, ma’ neidio ar drên yma fel neidio i fyd arall. Ma’ ’da fi sgrin o mla’n i’n dangos le ar y map ydw i a pha mor gyflym dw i’n mynd – fel ar eroplên – a dw i ddim hyd yn oed yn y seti posh. Dw i’n edrych arno fe bob hyn a hyn i jecio’r sbîd eto. 300 km par heure. Waw. Gwibio ydw i at gyfeillion yn Llydaw lle bydda’ i’n bownd o suddo peints a cha’l gêm hwyliog arall o ‘pa wlad sydd orau?’ Gêm sydd dipyn anoddach i fi ers iddyn nhw stopio bod yn iwsles yn y rygbi.

Nid y trên yw’r unig beth pleserus am y siwrne hon gan fy mod yn gallu ymdrybaeddu’n ogoneddus mewn stori ar ôl stori am ddiwedd gyrfa wleidyddol Boris Johnson. A finne’n edrych ymlaen gymaint at ei gwymp, ma’n siom na allai ei lywodraeth gapitiwleiddio tra ’mod i yn y wlad i fwynhau’r sioe – ond cwyn fechan yw honno. Ro’dd ’na gyfnod bach hynod bleserus rai dyddiau yn ôl lle ro’dd ’na ymddiswyddiad newydd bob tro ro’n i’n reffresho’r ffôn. Ro’dd hynny bron yn ddigon i ’neud ifi anghofio am ychydig ’mod i’n talu lot mwy i ddefnyddio’r blydi ffôn dramor oherwydd Boris.

Ma’r holl beth yn newyddion reit fawr fan hyn hefyd, wrth gwrs. Yn enwedig i’r boi ofynnodd am fy mhasbort yn y gwesty. “Boris Johnson – hahaha!” medde fe. Bah oui, exactement! O’n i dipyn mwy parod i fwynhau’r jôc gyda’r bonwr hwnnw na’r un jeciodd fy mhasbort ym maes awyr Orly  – a mwynhau dweud wrtha’i ’mod i yn y ciw anghywir gan nad o’dd fy mhasbort bellach yn un Ewropeaidd.

Fideos echrydus

Ry’n ni bellach yn y cam gwirion hwnnw lle ma’ Toris ry’ch chi prin wedi clywed amdanyn nhw – a rhai does neb wedi clywed amdanyn nhw – yn creu fideos echrydus i daflu eu hetiau drudfawr i’r pair i gael bod yn Brif Weinidog. Rehman Chishti AS unrhyw un? New one on me! O’dd wir raid ifi jecio’i Wiki fe ddwywaith i neud yn siŵr nad rhyw sbŵff slic oedd e. (Ma’ fe’n AS go-iawn, ac wedi bod i Brifysgol Aberystwyth, os oes gan unrhyw un ddiddordeb).

Ma’ fideos dau o’r ymgeiswyr eisoes wedi creu stŵr gan na chafwyd y caniatadau priodol, tra bo eraill yn chwerthinllyd o amaturaidd. S’dim byd fel fideo sâl gan wleidydd i’ch atgoffa bod ein dyfodol yn nwylo pobol sy’n methu gwneud yr hyn ma’ plant yn eu harddegau yn ei wneud bob dydd ar TikTok. Ma’r detholiad o ymgeiswyr – naw neu ddeg wrth ifi sgwennu hwn, dw i’n colli cownt – fel edrych ar pick ’n mix a sylwi ’mod i’n alyrjic i bopeth. Ma’ ’na ambell ymgeisydd sy’n becso fi o ran eu gallu i ennill etholiad eto fyth, cofiwch. Ma’n amlwg, bellach, mai steil Starmer yw ceisio ymddangos yn fwy o steady Eddie na’i wrthwynebydd. Ond os nad yw e’n boblogaidd iawn ar ôl gwynebu celwyddgi ers tair blynedd, shwt fydd e yn erbyn rhywun sy ddim yn cael ei gydnabod gan bawb fel clown diegwyddor? Shwt fydd e yn erbyn menyw wybodus? Shwt fydd e’n erbyn gŵr ifanc talentog o leiafrif ethnig?

Ond ar y cyfan – wrth iddyn nhw oll, bron, honni y bydden nhw’n torri trethi fwy na’r lleill – ma’r holl shebang fel sioe gwis allai ddwyn y teitl ‘Who’s the biggest *rsehole?’ Dim sôn go-iawn am gostau byw, dim sôn am sortio Brexit, dim cynllun am wasanaethau cyhoeddus wrth i’r boblogaeth heneiddio. Jyst ‘My taxcut is bigger than yours’. Fel plant ar y iard chwarae. Dyma ein hatgoffa yn oeraidd nad cael gwared ar BoJo yw diwedd y gân… Pwy bynnag fydd y Prif Weinidog nesa’, ma’n amlwg y bydd ’na wrthwynebu cythreulig i’w wneud am ddwy flynedd cyn etholiad cyffredinol.

Cylchgrawn Golwg yn ddigidol ar y We

Os ydych chi eisiau darllen erthyglau cylchgrawn Golwg ar y We, ewch i fan hyn:

Tanysgrifiwch i Golwg a Golwg+ (360.cymru)