Mae cylch cerrig wedi ei godi yn Nhregaron, yn gofnod parhaol o ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r dref yn wythnos gyntaf Awst.

Cerrig plastig fydd Gorsedd y Beirdd yn eu defnyddio yn y Brifwyl, ond roedd trigolion lleol am gael ‘Cylch Cofio’ sef 14 o gerrig parhaol wedi eu gosod yn gadarn mewn sment “yn gofnod hanesyddol yn Nhregaron am flynyddoedd mawr i ddod”.