Mae’r ras wedi dechrau, a Dic Mortimer, chwarae teg, yn cynnig cymorth i bwy bynnag sydd am fetio ar y ceffylau…

“Mae Shit ’Appens yn ofnadwy o agored i gael ei basio, rhaid i Key Hunt ddibynnu ar eraill yn methu ac mae gan Tugging It ormod i’w brofi. Yr unig beth o blaid Doormat yw nad oes neb wedi clywed amdani, tra bod Don’t Trust yn feinwen sy’n dueddol o lamu’n eithafol tua’r dde. Poni sioe, hunandybys ydi’r ffefryn Rich’n’slack.” (dicmortimer.com)