Mae darlithydd mewn Bydwreigiaeth yn galw ar ragor o siaradwyr Cymraeg i astudio yn y maes oherwydd “prinder staff,” yn enwedig ar ôl y pandemig.

“Mae yna wastad brinder,” meddai Sharon Jones, Hwylusydd Clinigol mewn Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe. “Rydyn ni wedi ffaelu eto mynd nôl a gwasanaethu dosbarthiadau geni achos does dim digon o staff gyda ni yn y gymuned i’w wneud e. Rydyn ni wedi colli lot o staff.”