Ddechrau’r wythnos roedd yna stori fach ddifyr am drigolion tref lan-y-môr yn Lloegr yn pleidleisio dros gyfyngu ar Dai Haf.

Fe gafodd refferendwm ei gynnal yn Whitby sy’n dref borthladd ar arfordir dwyrain Lloegr fyny yng ngogledd Swydd Efrog.

Yn y refferendwm fe bleidleisiodd 2,111 o blaid cadw’r holl dai newydd sydd i’w codi yn yr ardal yn gartrefi i bobl leol.

Dim ond 157 oedd o blaid caniatáu i dai newydd fod yn dai gwyliau.