Ynglŷn â’ch stori “Bai mawr” ar siaradwyr Cymraeg “am droi i’r Saesneg” gyda dysgwyr (Golwg 02/06/22), mae llawer mwy i’r broblem na hynny. Pan o’n i’n cael fy hyfforddi i fod yn diwtor dysgais beidio gwneud y cywiro yn amlwg. Mae’n well anwybyddu pa bynnag gamgymeriad a gadael i’r sgwrs lifo, ond gwneud ymdrech i gynnwys y ffordd neu air cywir nes ymlaen yn y sgwrs. Does dim diffyg dewrder gan ddysgwyr, ond mae diffyg hyder. Mae cadw’r sgwrs i lifo yn ffordd ef