O loris Mansel Davies i ddysgu’r Wyddor i blant – mae cwmni bach o Grymych yn ehangu eu busnes i’r stafell ddosbarth…

Gwaith arferol cwmni Boomerang o Grymych yw cynllunio arwyddion a llythrennu ar gyfer cerbydau – boed yn lorïau, yn fysus, yn geir neu’n faniau gwaith.

Fe welwch chi ôl eu gwaith creadigol ar sawl lori Mansel Davies ac Oil4Wales ar heolydd Cymru.