y sefydliad

 

(yn dilyn cyhoeddi adroddiad Sue Gray

ac ynghanol paratoadau’r jiwbilî)

 

disgynnodd rhai poteli

meddw, gwag o’r sgip

sy’n cuddio yn y cowt

yng nghefn y tŷ,

 

ac mae stribedi coch

y gwin yn rhedeg

drwy holl siwrwd blêr

y gwydr glas a chlir.

 

ac mae sŵn rhyw filwyr

jiwbilî yn cogio

martsio ac yn bloeddio

eu gorchmynion mawr

 

fel y bu y rhai ffordd

hyn erioed: yn

bloeddio, martsio

ac yn meddwi’n llwyr