“Dw i’n teimlo fel fy mod i newydd fynd deuddeg rownd efo Mike Tyson!”

Dyna eiriau cyn-ymosodwr Cymru, Iwan Roberts, ar raglen ffonio-i-fewn Radio Wales toc wedi’r fuddugoliaeth fawr yn erbyn Wcrain nos Sul. Ac roedd sawl un yn teimlo’r un fath.

Aeth y genedl gyfan drwy’r drin go-iawn wrth i’r tîm pêl-droed cenedlaethol sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.