Y dyn 24 oed o Dorset wnaeth ennill Medel y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Cyn symud at ei gariad yn Abertawe, bu yn astudio Mathemateg yng Nghaergrawnt ac mae yn creu gwefan i seicolegwyr…

Sut deimlad oedd ennill gwobr fawr am ddysgu siarad Cymraeg mor dda?

Doeddwn i ddim yn nerfus hyd nes rhyw hanner awr cyn y seremoni. Ond roeddwn i yn eitha’ nerfus ar y llwyfan, o flaen y camerâu. I’ve yet to find my camera legs!

Dyna’r steddfod gynta’ i mi fod iddi hi.

Ges i gyngor i gerdded i’r babell yma, ond wnes i gerdded heibio’r babell a’r holl ffordd i’r ardal fwyd, cyn gorfod troi nôl a dod o hyd i’r babell yn y diwedd!

Ond roedd yn brofiad hyfryd ac roedd yr ardal mor, mor brydferth.

Beth oedd yn rhaid i chi ei wneud er mwyn cystadlu am y Fedel?

Fe gawson ni gwestiynau i’w hateb ymlaen llaw, a ffilmio’r atebion.

A’r brif dasg oedd siarad gyda’r beirniaid ar y diwrnod ei hun [ar fore Mawrth y steddfod], er mwyn cael fy asesu.

Fe gymrodd hi chwarter awr i mi ddeall fy mod i yn siarad gyda’r beirniaid, roedden ni jesd wedi bod yn cael sgwrs fach hwyliog hyd at hynny!

Roedd yr holl beth yn sydyn iawn, asesu yn y bore, canlyniad yn y pnawn. Ond roedd hynny yn beth braf.

Sut wnaethoch chi ddathlu ennill?

Ha! Fe es i yn ôl i’r gwesty yn Wrecsam a chael napan hyfryd ar y dydd Mawrth, ac roeddwn i yn gweithio naw tan bump y diwrnod wedyn.

Rydw i yn gwneud stwff teci i gwmni British Isles DBT Training, sy’n hyfforddi therapyddion seicolegol. Ar y funud rydw i yn adeiladu gwefan i’r seicolegwyr fedru cadw trac o’u cleifion.

Fel arfer rydw i yn gweithio ben fy hun yn Abertawe, ond ddes i fyny i’r brif swyddfa yn Wrecsam i weithio adeg y steddfod.

Pam aethoch chi ati i ddysgu siarad Cymraeg?

Roedd yna gwrs dysgu Cymraeg ar-lein am ddim ar gychwyn y cyfnod clo. Roedden nhw eisiau rhoi prawf ar ffyrdd o ddysgu Cymraeg dros y We, felly dyma’r cwrs yn cael ei gynnig am ddim.

Ac fe wnaeth fy mhartner Angharad, a oedd eisoes wedi dysgu Cymraeg, rannu’r linc i’r gwersi ar facebook, a wnes i feddwl: ‘Hwyrach wna i roi cynnig arni.’

Ac fe ges i fy synnu yn arw gyda faint roeddwn i yn mwynhau’r holl beth.

Sawl iaith arall sydd ganddoch chi?

Rydw i yn siarad Almaeneg oherwydd bod fy mam yn Almaenes. Byddai fy mam wastad yn siarad Almaeneg gyda ni yn blant.

Ond roeddwn i yn casáu dysgu ieithoedd yn yr ysgol, wnes i ddim mwynhau gwersi Ffrangeg o gwbl.

Sut mae eich teulu wedi ymateb i’ch buddugoliaeth?

Pan wnes i ddechrau dysgu Cymraeg, roedden nhw mewn pembleth achos does ganddo ni ddim cysylltiadau Cymreig.

Ond roedden nhw yn browd iawn ohona i, ac fe wnaeth fy nhad recordio’r holl seremoni ar y teledu.

Beth ddaeth â chi i Gymru?

Trên!

Fe ddes i fyw at fy mhartner Angharad yn Abertawe, ar ôl cyfarfod nhw yn y coleg yng Nghaergrawnt.

Beth yw eich atgof cynta’?

Y peth cynta’ nad ydw i yn ei gofio yw’r trip teuluol i Disneyland Paris.

Roedden ni wedi swnian a swnian am gael mynd, a mam a dad wedi gorfod cynilo a chrafu am arian i dalu am y gwyliau.

Ac mae’r ffaith nad oes yna’r un ohona ni’r plant, erbyn hyn, yn cofio mynd, yn cynddeiriogi fy mam!

Sut le yw Poole, tref eich magwraeth yn Dorset?

Lle braf sy’n fywiog iawn. Mae yna lot o filiwnyddion yn byw ar hyd arfordir Dorset, achos ei fod o mor brydferth, ond doeddwn i ddim yn un o’r rheiny!

Wnes i ddim wir gwerthfawrogi’r lle wrth dyfu fyny, ac erbyn hyn dw i wir yn hoffi mynd yn ôl yno fel twrist.

Beth yw eich ofn mwya’?

Y syniad o orfod gwisgo gwisg ffansi… ges i brofiad gwael yn blentyn pan es i i barti fel ‘Neo’ o The Matrix, a cheisio fy ngorau i edrych y part. Ond dyma rywun yn dweud mewn ffordd ffwrdd-a-hi: ‘Wnes di fawr o ymdrech naddo’.

Wnawn nhw fyth feddwl ddwywaith am beth ddywedon nhw, ond fe newidiodd fi am byth!

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini? 

Rydw i yn gwneud pole fitness unwaith yr wythnos, ac mae o wir yn waith caled.

Mae sesiwn yn para awr ac mae ceisio dal eich hun ar y polyn a throelli yn lot o hwyl.

Beth sy’n eich gwylltio?

Printers cyfrifiaduron. Does yna’r un darn gwaeth o dechnoleg wedi ei ddyfeisio. Tydyn nhw byth yn gweithio!

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Lee Mack a Rob Brydon. Ac i’w fwyta, math o gacen nionyn Almaenig o’r enw zwiebelkuchen.

P’run oedd sws gorau eich bywyd?

Y gusan gyntaf gydag Angharad fy mhartner wrth gerdded yn ôl o barti yng Nghaergrawnt.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Siŵr o fod.

Gwyliau gorau?

Fy ngwyliau cyntaf ar ben fy hun, yn 15 oed, pan wnes i hedfan draw i’r Almaen i weld teulu.

Atgofion melys, a’r uchafbwynt oedd mynd i amgueddfa wyddoniaeth yn Bremen oedd yr un siâp â morfil.

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos? 

Fy ffôn!

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Yn Gymraeg, Helynt gan Rebecca Roberts. Da iawn.

Yn Saesneg, rydw i ffan anferthol o’r genre ffantasi ac yn benodol y llyfr The Name of the Wind gan Patrick Rothfuss.

Beth yw eich hoff air? 

Bwrlwm.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Rhywle ar y We mae yna flog cyfrinachol wnes i gadw, gyda cherddi na wnes i eu rhannu gydag unrhyw un yn y byd go-iawn.

Does neb wedi sylwi arno hyd yn hyn, er nad oes amheuaeth am ansawdd y cerddi. Mae’r farddoniaeth yn feistrolgar a dyw pobol jesd ddim yn deall fy athrylith!