Mae datganoli wedi helpu’r economi yma yng Nghymru, yn ôl Alun Jones, sy’n camu i lawr o’i swydd yn Brif Weithredwr Menter a Busnes eleni.
Daw hyn ar ôl cyfnod o 30 mlynedd gyda’r cwmni, a bron i ugain mlynedd yn Brif Weithredwr.
Mae gan gwmni Menter a Busnes 145 o staff a 50 o weithwyr llawrydd yn gweithio mewn swyddfeydd yn Aberystwyth, Bangor, Meifod, Llanelwy, Caerdydd a Chaerfyrddin.
“Mi faswn i’n dweud bod datganoli wedi helpu achos rydan ni’n nes i’r Gweinidogion ac yn nes i’r Llywodraeth fel pobol nag os fasa’r gweision sifil a’r gwleidyddion i gyd yn San Steffan,” meddai Alun Jones wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon.
“Dw i’n credu fod hynny yn help o ran y sectorau gwaith yr ydyn ni’n gweithio ynddyn nhw, ein bod ni’n gallu cysylltu gyda’r uwch swyddogion neu’r Gweinidog os oes angen.
“Felly yn sicr mae hynny wedi helpu, yn ogystal â’r ffaith bod y ffocws o ran yr economi yn gallu edrych yn fwy manwl ar beth ydi manylion y rhanbarth, mae hynny wedi bod yn fanteisiol.
“Dw i’n credu bod yna gynlluniau eithaf pendant wedi bod sydd wedi’u teilwra i Gymru ac wrth weithio law yn llaw gyda’r arian Ewropeaidd sydd wedi bod dros yr ugain mlynedd diwethaf, mwy mae hwnna wedi gallu gweithio yn eithaf da.
“Achos mae Llywodraeth [Cymru] wedi gallu gwario mewn ardaloedd gwahanol o Gymru os ydyn nhw wedi ffitio o fewn y model i ddatblygu’r model yma yng Nghymru.
“Beth sydd ychydig bach yn fwy cymhleth yn dilyn Brexit wrth gwrs ydi lle mae hwnna yn ein gadael ni.
“Yn amlwg mae yna sialensiau o’n blaenau ni o ran bod y cyllid ddim yn dod yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru i’w ddosbarthu, a sut mae hynny yn mynd i effeithio ar gynlluniau strategol ar gyfer Cymru, hwnna ydi’r gofid.”
“Rhy gynnar i ddweud” beth fydd gwir effaith Brexit
Fodd bynnag, mae hi’n “rhy gynnar i ddweud” beth fydd gwir effaith Brexit ar yr economi a swyddi yng Nghymru, medd Alun Jones.
“Mae o’n amlwg yn hitio rhai sectorau yn barod,” meddai wedyn.
“Rydan ni’n gweithio gyda lot o gwmnïau yn y sector bwyd, er enghraifft.
“Beth sy’n anodd ar y funud yw bod y pandemig wedi bod yn ogystal, felly mae’n anodd gwybod beth yn uniongyrchol sydd wedi cael yr effaith mwyaf ar fusnesau.
“Mae yna rai sy’n allforio nwyddau sy’n amlwg yn gorfod delio gyda llawer mwy o red tape ac yn cael llawer mwy o drafferthion i gael hynny i ddigwydd.
“Digwydd bod, mae diweithdra yn gymharol isel ar y funud.
“Ond ia, ella ei bod hi ychydig yn rhy gynnar i ddweud.
“Dw i’n clywed rhai pobol yn cwyno bod yna lot mwy o fiwrocratiaeth, dw i’n gwybod fod yna bobol wedi methu cael darnau, wedi methu cael nwyddau a phethau yr oedden nhw’n arfer eu cael o’r cyfandir.
“Mae hwnna yn creu trafferthion, ond mewn un neu ddau o achosion mae achosi’r rheini i fynd ati i greu’r nwyddau eu hunain ac mae hynna yn creu swyddi.
“Ond mae o’n amrywio dw i’n meddwl.”
Er i Gymru bleidleisio o blaid Brexit, mae Alun Jones o’r farn fod yr arian ddaeth o Ewrop wedi cael ei wario’n “effeithiol ar y cyfan”.
“Dw i’n meddwl bod yna lot o anwybodaeth o ran y prosiectau ac ella fod pobol ddim yn sylweddoli faint o arian sydd wedi mynd i mewn i helpu’r sector addysg, y sector iechyd ac yn y blaen.
“Ac roedd hynna yn anodd iawn i’w wthio yn erbyn propaganda bws Boris Johnson a phopeth arall [adeg refferendwm 2016].
“Dw i’n credu bod yna lot o anwybodaeth ac fe wnaeth y ffordd y cafodd yr ymgyrch ei strwythuro ddylanwad ar hynny.
“Roedd y bleidlais yn agos wrth gwrs, ond mae’n debyg bod hynny wedi chwarae rhan yn y canlyniad.”
“Miliynau o gwsmeriaid drws nesaf i ni”
Fe ddylai busnesau yng Nghymru geisio manteisio ar y “miliynau o gwsmeriaid drws nesaf i ni yn Lloegr”, oherwydd bod isadeiledd trafnidiaeth Cymru yn gallu gwneud masnachu mewnol yn anodd, yn ôl Alun Jones.
“Dw i’n meddwl ei fod o’n gallu effeithio ar y masnachau Gogledd i’r De, beth rydan ni’n gweithio arno fwy ym Menter a Busnes, gyda’r sector bwyd er enghraifft, ydi edrych ar ddosbarthiant,” meddai.
“Mae hynny yn gallu bod yn broblem fawr i fusnesau bwyd ac rydan ni’n ceisio cydlynu hynna fel bod cwmnïau yn gweithio gyda’i gilydd.
“Ac rydan ni’n edrych ar farchnadoedd yn Llundain, ac i gyfeiriad Manceinion ar gyfer cwmnïau o’r Gogledd achos wrth gwrs mae gennym ni filiynau o gwsmeriaid drws nesaf i ni yn Lloegr.
“Mae hi’n farchnad fawr ac mae’n bwysig ein bod ni’n ffeindio ffurf i anfon nwyddau i mewn i’r farchnad honno.
“Mae yna le i wella ar yr isadeiledd yma yng Nghymru, does dim cwestiwn.
“Ond dw i’n credu bod yna le i gydlynu ein hymdrechion, annog busnesau i weithio gyda’i gilydd ac mae angen peth o broses i hwyluso hynna.
“Mae hwnna yn sicr yn rhywbeth yr ydyn ni’n ceisio ei wneud.”
Menter a Busnes wedi gwneud “gwahaniaeth mawr”
Wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod yn gweithio i Fenter a Busnes, dywed Alun Jones fod y cwmni wedi bod o fudd wrth helpu busnesau bach Cymru i dyfu.
“Dw i’n credu ei fod o wedi gwneud gwahaniaeth mawr, nid dim ond fi, dw i wedi bod yn ffodus iawn i weithio mewn tîm da dros y blynyddoedd,” meddai.
“Mae yna bob math o dargedau o ran creu swyddi a phethau fel yna ynghlwm â phob gwaith rydan ni’n ei wneud.
“Mae’r cwmni wedi cyflawni llawer, does yna ddim amheuaeth.
“Ac mae wedi bod yn bwysig o ran annog pobol i ddatblygu eu heconomi leol, dw i’n credu fod yna lot o dystiolaeth bod hynna yn digwydd yn naturiol.
“Dw i’n meddwl mai beth sy’n bwysig ei nodi yw bod yna dendrau rydan ni’n cystadlu amdanyn nhw lle mae yna gwmnïau o Loegr ac o dramor – cwmnïau ar y lefel yna – yn cystadlu, ac oni bai y bydden ni wedi’u sicrhau nhw fyddan nhw’n sicr ddim wedi cael eu gweithredu yn ddwyieithog a fyddai yna ddim gymaint o angerdd o ran gwneud yn siŵr bod pobol Cymru yn manteisio.”