Mi allech chi ddadlau fod Dic Mortimer wedi mynd fymryn dros y top wrth ddathlu buddugoliaeth Cymru yng Nghwpan y Byd…

“Rydw i wedi marw a mynd i’r Nefoedd. Mae’n baradwys pur lan fan hyn, trwy’r pyrth perlog a’r tu hwnt i’r sêr, yn llymeitian ambrosia ac anadlu arogldarth olew iwcalyptws ar wely o flew lama i gyfeiliant telynau. Hei, Dionysws! Plicia rawnwinen i fi… Dw i’n cwrdd â chefnogwyr Cymru o bob cyfnod o’n 146 mlynedd o bêl-droed rhyngwladol, y chwaraewyr a’r rheolwyr a frwydrodd drwy’r holl dorcalon i’n dwyn ni at y funud ogoneddus hon, a’r hen gewri a osododd y seiliau…” (dicmortimer.com)

Roedd yna ambell beth arall yn digwydd, wrth gwrs. Dyma Iain Dale, cyn y bleidlais o ddiffyg hyder yn Boris Johnson, wrth ddarogan yn rhoi dadansoddiad eitha’ da o’r canlyniad …

“Byddai unrhyw beth o amgylch 269 (75%) i’r Prif Weinidog yn claddu’r holl gwestiwn arweinyddiaeth. Dw i’n credu bod angen dau draean (239) arno i fod yn weddol hyderus fod ei safle tymor hir yn saff. Unrhyw beth o dan 215 (60%) ac mae mewn lle peryg …” (iaindale.com)

Ac wedi sbloets y Jiwbilî, mae John Dixon yn gweld gobaith i Gymru a difodiant i’r Undeb oherwydd fod gynnon ni ddewis arall…

“Yng Nghymru a’r Alban, mae yna weledigaeth arall ar gael os yw pobol eisiau hynny, rhywbeth y bydd pobol yn Lloegr yn cael trafferth i’w ffindo, yn enwedig gyda Phlaid Lafur sydd fel petai am brofi ei bod hi hyn yn oed yn fwy ymrwymedig na’r Blaid Geidwadol amlwg-genedlaetholgar i olwg hen ffasiwn ar Brydain. Mae’n arwydd arall sy’n awgrymu cywirdeb barn dymor hir llawer o independentistas y bydd yr Undeb yn y diwedd yn cael ei dinistrio gan syniadau Lloegr am ei harbenigrwydd yn hytrach na gofynion ei meddiannau Celtaidd.” (borthlas.blogspot.com)

A beth am ddelwedd Cymru? Mae Ifan Morgan Jones yn gweld (a licio) agweddau cystadleuol ymosodol Eisteddfod yr Urdd ar ei newydd wedd…

“Mae’r cystadleuwyr yn cael eu gwahodd i’r llwyfan a’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi, nid yn unig o flaen camerâu teledu byw S4C ond hefyd y dyrfa ar y maes ei hun… Mae yna hyd yn oed oedi yn arddull X-Factor cyn cyhoeddi’r canlyniad, gyda siom y collwyr a gorfoledd yr enillwyr wedi eu dal mewn lluniau agos ar y sgrîn fawr o flaen pawb. Mae bron fel yr Hunger Games, ond gyda thelynau’n hytrach na bwâu croes.” (ifan morgan jones nation.cymru)

Ac yn thenational.wales, mae Leigh Jones wrth ei fodd efo delwedd arall o Gymru… un y tîm, y cefnogwyr a’r sefydliad pêl-droed (sydd bellach yn cynnwys Dafydd Iwan)…

“Un i’w thrysori ydi’r ddelwedd yma o Gymru. Roedd yn ddelwedd o bobol sy’n siarad Cymraeg a’r rhai sy’n methu, o wahanol hiliau a threftadaeth, pobol oedd wedi eu geni a’u magu yng Nghymru ac eraill sy’n gymwys trwy rieni neu neiniau a theidiau Cymreig, chwaraewyr ar ddechrau eu gyrfa a pherchnogion MBE, oll fraich ym mraich ac yn cau cân Gymraeg Dafydd Iwan am wrthsefyll… A phan ddaw Tachwedd, does dim gwahaniaeth beth ddigwyddith ar y cae os gall y tîm gyflawni dim ond hanner yr hyn sydd wedi ei gyflawni oddi arno.”