Mae’r Gweinidog Addysg eisiau gweld cyfleoedd i “bobol efallai na fyddai’n cael mynediad yn draddodiadol i fyd y ddrama Gymraeg”…

Bu’r Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles, ar Faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych i gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn rhoi £1 miliwn i Gwmni Theatr yr Urdd dros bum mlynedd, cwmni a roddodd hwb i yrfa sêr fel Rhys Ifans a Richard Lynch yn eu llencyndod.