Roedd rhaid i rai blogwyr ymateb i ganlyniadau’r etholiadau lleol ac, yn ôl Theo Davies-Lewis ar thenational.wales, mae’r casgliadau’n arwydd o broblem fwy i un blaid yn benodol …

“… pe bai yna etholiad cyffredinol fory, byddai Ceidwadwyr Cymru yn debyg o gael eu sgubo o’r neilltu yn llwyr. Maen nhw’n rhy anarbennig, yn rhy anymarferol ac yn rhy ddifywyd i allu ymladd yn iawn yn erbyn y glymblaid wleidyddol sy’n datblygu i fod yn un amhosib ei thorri rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru. Gyda threigl amser, does bosib na fydd mwy o geidwadwyr ‘c’ fach yn cael eu denu i gefnogi Drakeford a Price, sydd, yn ogystal â bod yn nhir canol gwleidyddiaeth Cymru, yn ailddiffinio’r tir hwnnw hefyd. Mae rheolaeth ganddyn nhw yn dod yn norm caniataol, heb ei herio.”

I Ifan Morgan Jones ar nation.cymru, mae yna ystyriaethau mwy fyth o ran dyfodol cynghorau Cymru eu hunain. Mae’n awgrymu cynllun o saith cyngor mawr, gan gynnwys dau yn y Gogledd ac un tros yr hen Ddyfed a Brycheiniog a Maesyfed …

“Yn ogystal â chynyddu maint y cynghorau hyn, mi ddylen nhw gael rhagor o rym. Y model delfrydol, efallai, fyddai rhywbeth fel Cantonau’r Swistir, sydd â llawer o rym unigol tros drethi, addysg, iechyd a chynllunio. Byddai  ganddyn nhw hefyd lai o gynghorwyr, ond rhai sy’n cael eu talu’n well, a’r cyfan wedi gorfod mynd trwy etholiad i fod yno… byddai wardiau mwy, aml-aelod gydag STV [system drosglwyddo pleidleisiau], llai o gynghorwyr a chynghorau mwy, mwy grymus oll yn sicrhau cymaint o ddewis democrataidd ag sy’n bosib a hefyd yn dod â grym mor agos â phosib at y bobol.”

Eisiau newid trefn y system ynni yng ngwledydd Prydain y mae Leanne Wood, cyn-arweinydd Plaid Cymru. Dyna un o’i hatebion hi i’r argyfwng costau byw …

“Yn y tymor hir, trawsnewid holl sector ynni y Deyrnas Unedig i fodel nid-er-elw yn debyg i Dŵr Cymru, er enghraifft. Bach sy’n brydferth. Felly, bydd incwm tros ben yn cael ei ailfuddsoddi ar draws y sector, gan gynnwys ynni adnewyddadwy, gan ganiatáu symudiad esmwyth oddi wrth danwydd ffosil a niwclear at ynni gwyrdd, a rhaid i hynny fod yn rhan fawr o’r ateb o ran cyfiawnder economaidd a sefydlogrwydd.” (thenational.wales)

Ond tra bo’r trafod tymor hir yn parhau, partïon a chyrri-ar-ôl-gwaith sy’n mynd â’r sylw yn Lloegr. Yn ôl John Dixon, mae hynny’n siwtio Boris Johnson yn iawn …

“… tra mae rhai o’r adroddiadau [am gwrw a chyrri Keir Starmer] yn awgrymu nad oedd y fersiwn a gawson ni cynt o’r digwyddiadau yn gwbl gyson â’r gwir, fe all [yr heddlu] ddod i’r casgliad na chyflawnwyd unrhyw droseddau sy’n haeddu dirwy, a dyna’r canlyniad mwya’ tebygol. Fydd y Ceidwadwyr ddim yn anhapus gyda hynny – maen nhw wedi taflu llawer o faw, ac mae peth wedi aros, ac maen nhw wedi creu’r argraff nad y Torïaid yn unig sydd wedi torri rheolau. Dyw hi ddim yn broses wleidyddol arbennig o ddyrchafol ond mae’n cwrdd â’r unig faen prawf sydd ar ôl gan y llywodraeth a’r Prif Weinidog presennol – cadw grym ar unrhyw gyfri’.” (borthlas.blogspot.com)