Mae yna bedwar mater mawr yn y blogfyd yr wythnos yma. Ac ychydig o ailddiffinio. John Dixon, er enghraifft, yn dadlau nad problem ‘gostau byw’ sydd gyda ni o gwbl …

“…ymhlith y ffactorau sy’n cael y bai am gynyddu chwyddiant… mae prinder llafur mewn rhai sectorau (canlyniad uniongyrchol fwy neu lai i atal Rhyddid Symud gyda gwledydd yr Undeb Ewropeaidd), sector ynni preifat sydd wedi rhoi blaenoriaeth i elw tymor byr tros storio a diogelwch tymor hir, effaith Brexit a Covid ar fasnach a’r rhyfel yn Wcráin. Dim ond dau o’r rheina (Covid a’r rhyfel) sydd heb fod yn ganlyniad i bolisïau ideolegol y llywodraeth ac mae’r ddau’n waeth oherwydd fod y llywodraeth yn gwrthod gweithredu i’w lliniaru… nid argyfwng ‘costau byw’ yw hwn o gwbl; mae’n argyfwng economaidd llawn wedi’i achosi’n uniongyrchol gan bolisi llywodraeth.” (borthlas.blogspot.com)

Ac nid argyfwng ariannol yn unig sydd yn y Gwasanaeth Iechyd yn ôl y meddyg Owain Rhys Hughes ar nation.cymru

“…oes, maen angen arian… ond y peth pwysica’ yw fod angen cynlluniau gwario sydd wedi eu hystyried yn ofalus a buddsoddi tymor hir mewn technoleg y mae clinigwyr o ddifri’ eisiau ei ddefnyddio ac sy’n cynnig buddiannau pendant. Ac ydi, mae hwn yn adeg o argyfwng yn y Gwasanaeth Iechyd. Ond mae hefyd yn adeg ar gyfer dychymyg a gobaith, am fachu’r gorau o’r atebion newydd gorau ac ymrwymo i newid. Dw i, fy hun, yn gweld golau ym mhen draw’r twnnel.”

Gan fenthyg colofn o thenational.scotland, mae thenational.wales yn amau bod yr ymateb i sgandal cam-drin rhywiol a rhagfarn gwrth-fenywaidd Tŷ’r Cyffredin yn mynd i’r cyfeiriad anghywir …

“Os yw ASau benywaidd a gweithwyr benywaidd yn rhybuddio’i gilydd ynghylch pa ASau i’w hosgoi, dydi’r system ddim yn gweithio. Os… oes rhaid i un gweinidog gael ‘meindar’ mewn digwyddiadau meddwol i wneud yn siŵr ei fod yn bihafio, yna mae’n amlwg eu bod yn taclo’r broblem ffor’ chwith. Mae yna broblem gyda diwylliant San Steffan. Mae gwleidyddiaeth gwarchod-eich-buddiannau-eich-hunan yn golygu bod yn well gan bleidiau… esgusodi camymddwyn eu cynrychiolwyr yn hytrach na delio ag o.” (Kirsty Strickland)

A ddeng mlynedd ers crybwyll croesawu llongau tanfor niwclear i Gymru, mae’r cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, bellach yn poeni am oblygiadau niwclear y rhyfel yn Wcráin ac am fethiant y Gorllewin i rwystro Vladimir Putin…

“Yn lle cytundeb cyffredinol bod angen rhoi diwedd ar luosogi arfau niwclear, mae yna gred erbyn hyn mewn rhai gwledydd bod angen iddyn nhw gael arfau niwclear i sicrhau eu diogelwch eu hunain. Mae geiriau bygythiol llywodraeth Rwsia’n cael effaith y tu hwnt i Wcráin. Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n bygwth eraill oherwydd fod gyda nhw arfau niwclear. Fydd hi ddim yn hir cyn i wledydd eraill fod eisiau cael eu harfau eu hunain a gallu anwybyddu’r bygythiadau. A dyna lwybr na all y byd fforddio’i ddilyn.” (thenational.wales)