Cofis yn cyrraedd ffeinal y cwpan yn Stadiwm Principality

Mae llu o dimau lleol wedi ymddangos yn ein stadiwm rygbi cenedlaethol yn ddiweddar. Ar Caernarfon360 cewch ddarllen rhagor am hynt Clwb Rygbi Merched dre’ yn ffeinal y cwpan, ac ar Clonc360 mae gan Pete Ebbsworth adroddiad o gêm glos ieuenctid Llanbed yn erbyn Llandâf, a orffennodd yn 26-24 i’r tîm o’r de.

Cofis yn cyrraedd Ffeinal Cwpan yn y Principality ?

Hannah Hughes

Bydd Tîm Rygbi Merched Caernarfon yn teithio i Stadiwm Principality ar gyfer Ffeinal Cwpan Gogledd Cymru dydd Sul?

Cyfres rasio trêl yr haf yn agor yn Nant yr Arian

Mae cwpwl o straeon rhedeg wedi ymddangos dros yr wythnos ddiwethaf hefyd. Ewch i Clonc360 i weld canlyniadau ras ffordd y ‘Teifi 10’, a gafodd ei chynnal ddiwedd Ebrill yn ochrau Llanbed, gan glwb rhedeg Sarn Helen.

Ar BroAber360 mae hanes y ras trêl gyntaf yn ‘Sialens y Barcud Coch’. Ewch i’r wefan fro i gael cip ar y canlyniadau llawn a manylion rasys nesa’r gyfres.

Race-start-pic

Cyfres rasio trêl yr haf yn agor yn Nant yr Arian

Rhedeg Aber

Cwrs heriol mewn lleoliad godidog i ddechrau cyfres newydd yn y canolbarth

Clwb Hoci Llanybydder yn cipio’r cwpan

Mae merched Llanybydder yn dathlu wedi iddyn nhw gipio Cwpan De Cymru, gyda buddugoliaeth yn erbyn ail dîm Caerfyrddin. Y capten, Elin Calan Jones, sy’n disgrifio cyffro’r gêm derfynol ar Clonc360.

Clwb Hoci Llanybydder yn Cipio’r Cwpan!

Elin Calan Jones

Am Ymdrech! Am Achlysur! Buddugwyr Cwpan De Cymru.

 

Straeon bro poblogaidd yr wythnos

  1. Newid lleoliad munud olaf i’r Sioe Feirch, gan Gethin Morgan ar Clonc360
  2. Cofis yn cyrraedd ffeinal y cwpan yn y Principality, gan Hannah Hughes ar Caernarfon360
  3. Ras 10 milltir teifi eto, gan Richard Marks ar Clonc360