Gwledd o gigs gyda’r hwyr ar Faes Prifwyl Dinbych…

Os ydych chi awydd osgoi dathliadau’r jiwbili eleni, Dinbych yw’r lle i fod am chwistrelliad cryf o Gymreictod.

Mae’r Urdd yn addo “aduniad mwya’r ganrif” ar benwythnos cyntaf mis Mehefin, sy’n un hirach nag arfer am bod Llywodraeth Prydain wedi neilltuo’r dyddiau Iau a Gwener, 2 a 3 Mehefin, yn wyliau banc i ddathlu’r jiwbili, sef 70 mlynedd ers i’r Frenhines Elizabeth eistedd ar yr orsedd.