Be ydi egwyddorion gwleidyddol? Yn ôl Dic Mortimer, does gan Boris Johnson a’i gefnogwyr ddim amheuaeth. Un ydi peidio byth ag ymddiswyddo. Yr ail ydi …
“…dweud celwydd, gwadu’r gwir, dweud celwydd, gwingo’n anwireddus, dweud celwydd, llenwi swyddi cyhoeddus gyda’n ffrindiau a’n cynffonwyr, dweud celwydd, pluo nythod ein teuluoedd a’n cefnogwyr, dweud celwydd, mygu a sathru ar bob beirniadaeth a barn wahanol, dweud celwydd, rhannu camwybodaeth am ddegawdau, dweud celwydd, gwasgaru newyddion ffug a phropaganda trwy’r cyfryngau torfol sydd dan ein bawd, ailsgrifennu hanes ac wedyn dweud rhagor o gelwydd.” (dicmortimer.com)
Be ydi egwyddorion gweision sifil? Yn ôl John Dixon, mae prif was y Swyddfa Gartref wedi gosod cynsail peryglus wrth drafod y polisi o anfon ffoaduriaid i Rwanda …
“… fe ddywedodd fod rhaid i staff weithredu penderfyniadau gwleidyddion. Roedd hynny’n swnio’n hynod o debyg i ddweud wrthyn nhw bod rhaid dilyn pob gorchymyn, agwedd at lywodraeth yr oedd llawer yn credu oedd wedi ei siglo’n ddrwg yn Nuremberg. Mae yna lawer o bethau yn hanes y ddynoliaeth sydd wedi bod yn gwbl gyfreithlon dan ddeddfau’r cyfnod – gan gynnwys caethwasiaeth wrth gwrs – ond dyw ‘cyfreithiol’ ddim yn golygu cywir nac yn cael gwared ar holl gyfrifoldeb moesol y rhai sy’n eu gweithredu.” (borthlas.blogspot.com)
Beth am ein hegwyddorion ni? Dydi Dafydd Glyn Jones ddim yn credu bod gwrthwynebiad i dai haf yng Nghymru yn cynnwys perchnogion Cymreig …
“… mae’n rhaid trin yn wahanol rai categorïau o berchenogion. Dim treblu’r dreth felly ar y sawl a fedr brofi ei fod yn un o’r rhai hyn: (a) brodor o’r ardal lle mae’r eiddo (y pentref, y plwy, y cwmwd, y cantref — dewiser fel y bo’n addas); (b) Cymro; (c) unrhyw un o unrhyw fan yn y byd os yw’n medru Cymraeg. Oes, mae gen i ail dŷ, troedle yn fy hen ardal. Os gorfodir fi gan y dreth newydd i’w werthu, pwy a’i pryn? Faint o fet?” (Glynadda.wordpress.com)
Pa egwyddor wrth godi cerflun? Mae’n debyg y bydd dathliadau wrth ddadorchuddio cofeb i William Marshal, Iarll Penfro gynt, yn nhref Penfro ac mae David Hanington Smith yn gandryll…
“… does yna ddim esgus bellach… i ddadorchuddio cerflun yn unman o rywun sydd heb ddim o gwbl i’w wneud gyda’r tir, y bobl neu ddiwylliant y wlad lle mae’r cerflun… felly, dewch draw am ddiwrnod o hwyl ym Mhenfro, i ddysgu am iarl Eingl-Normanaidd a gododd gastell Eingl-Normanaidd i gadarnhau goresgyniad y Normaniaid yn Sir Benfro gan ladd llwyth o Gymry yn y broses.” (nation.cymru)
Ac wrth i bawb wynebu problemau prisiau tanwydd, pa egwyddor wrth gynnig help? Yn ôl Steffan Evans mae’n bwysig cael y sylfaen yn iawn …
“Os yw talu biliau tanwydd yn golygu na fydd gan dylwyth ddigon o arian i dalu am y rhent, bwyd ac angenrheidiau eraill, maen nhw mewn tlodi. Dyma’r tylwythau a ddylai fod yn flaenoriaeth ar gyfer unrhyw bolisi gan Lywodraeth Cymru i liniaru effeithiau’r argyfwng presennol.”(bevanfoundation.org)