Dros y blynyddoedd mae miloedd o blant ifanc wedi heidio i wersyll yr Urdd yng Nglan-llyn ger y Bala, a mwynhau mynd allan ar Lyn Tegid mewn cwch.
Y penwythnos diwethaf fe ddaeth penaethiaid hen a newydd y safle at ei gilydd ar gyfer eu haduniad cyntaf erioed, a hynny wrth i’r mudiad ddathlu ei ganmlwyddiant.