Ar ôl i sawl priodas gael ei chanslo neu ei gohirio oherwydd cyfyngiadau Covid dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r tymor priodasau yn ôl y gwanwyn hwn.

Bu’r ffotograffydd Rhiannon Holland yn tynnu lluniau mewn sawl priodas.

Yma mae hi’n sôn am ei phrofiadau a pham ei fod mor arbennig i fod yn rhan o ddiwrnod priodas wrth i deuluoedd a ffrindiau ddod ynghyd…

Cariad a chario… 

Ma’r llun yma o Bonnie ac Alan yn disgleirio â llawenydd. Mae e wir yn amhosib cerdded ar lawnt mewn sodlau – yn enwedig rhai gwyn, gosgeiddig! Ond ro’n i wir eisiau tynnu llun o’r cwpwl yma gyda’r môr yn gefndir, felly dim ond un peth oedd i’w wneud…  rhoi’r gwaith i’r priodfab! Mae’r hapusrwydd ar wyneb Bonnie gyda chwinc o hunanfoddhad a direidi – a dyma’r llun dw i’n dewis, nid yr un gyda’r olygfa anhygoel o fae Caerfyrddin. Personoliaeth yw beth sy’n sefyll mas i fi mewn lluniau priodas.

Areithiau…

Yr areithiau yw un o fy hoff rannau o unrhyw briodas.  Ma’ wastad lot o chwerthin a thynnu coes, a dyma pan mae pobol yn dechrau anghofio am y ffotograffydd.

Ti’n cael lluniau didwyll, naturiol gyda phawb wedi ymlacio – ac mae’n help bod y Champagne wedi dechrau llifo hefyd.

Roedd yr areithiau ym mhriodas Amy a Mitchell yn llawn direidi, ac roedd rhaid i fi atgoffa fy hun sawl gwaith bo fi’n gweithio, achos ro’n i jyst yn mwynhau gyda phawb arall.

Mae bod yn rhan o ddiwrnod priodas rhywun mor arbennig, a dw i’n teimlo’r holl emosiynau bob tro.

Plant mewn priodas…

Fi’n dwlu ar pan mae plant yn gallu gwylio’u rhieni yn priodi, mae e fel ffilm Disney go-iawn iddyn nhw. Ond ambell waith, dyw rhai bach ddim cweit yn deall pa mor bwysig yw’r seremoni. Mae trio esbonio i blentyn dwyflwydd bod angen sefyll yn dawel yn ystod yr addunedau priodasol yn hynod optimistaidd, ac yn wastraff amser. Sawl gwaith, dw i wedi cael un bach yn rhedeg at ei rieni ac eisiau bod yn rhan o’r foment fawr. Ond, mewn gwirionedd, dyma’r sêl bendith ddelfrydol… ac mae’r lluniau wastad yn hyfryd.

Tywydd stormus, lluniau epig

Roedd priodas Rachel a Jon ar ddiwrnod hynod o stormus yn Aberystwyth.  Ond roedd y cwpwl dewr yma yn fwy na hapus i dynnu lluniau ar yr harbwr.

Fi’n credu bod eu lluniau priodas nhw gymaint yn fwy rhamantus o achos y tywydd – Aberystwyth yn ei holl ogoniant.  Prawf nad oes angen tywydd braf ar ddiwrnod eich priodas i gael lluniau cofiadwy. Mae’r steil vintage a lliwiau pinc a melyn yma gyda’r cefndir tymhestlog yn asio’n berffaith rhywsut. I fi, mae’n dangos sut mae Rachel a Jon yn barod i sefyll gyda’i gilydd trwy unrhyw storm.

Ble ti’n mynd, Mam?

Y briodferch yn gwirio’i horiawr, a Merlin y ci yn meddwl bod hwnna’n owtffit ryfedd i fynd mas am dro. Pan mae’r briodferch neu’r priodfab yn paratoi gartre’, mae’r holl wisg – y ffrog, siwt, gwallt, esgidiau, beth bynnag – yn teimlo gymaint yn fwy swreal.

Mae’r holl bethau prydferth yma ar gefndir beunyddiol yn dangos popeth fwy, rywsut.

Ac os nad yw’r anifail anwes wedi cael gwahoddiad i’r briodas – mi wna i’n siŵr eu bod nhw dal yn ymddangos yn rhywle. Mae’n bwysig dangos pob chwarae teg i bawb yn y teulu.

Pan mae dy ffrind yn sbotio ti…

Yn aml iawn dw i’n adnabod rhai o’r gwesteion mewn priodas. Dw i’n dwlu ar y ffordd mae fy ffrind Teleri yn edrych yn syth lawr y lens yn y llun yma.

Gyda rhywun ti’n ‘nabod, ti’n cael llun sy’n llawn adnabyddiad. Petawn i ddim yn adnabod Teleri, efallai y byddai hi wedi edrych i ffwrdd, neu deimlo’n anghyfforddus gyda’r dieithryn yn pwyntio camera tuag ati. Mae’r llun yma yn mynd â fi’n syth nôl at y noson arbennig yma yn dathlu partneriaeth sifil ein ffrindiau.

Pan mae Dave Coaches yn troi lan (yn ddigidol)…

Mae Jenny a Jonny yn ffans enfawr o Gavin and Stacey felly wnaeth y best man drefnu bod Steffan Rhodri yn ffilmio fideo bach iddyn nhw i’w llongyfarch. Gethon nhw sioc a hanner a dw i’n credu bod y llun yma yn dal y foment yn berffaith.  Y lluniau grŵp naturiol yw’r rhai sy’n bennu lan mewn ffrâm – nid y rhai posed.

Lluniau grŵp…

Wedi dweud hynny… mae rhai grwpiau yn gwybod shwt ma gwneud. Dw i’n dal mewn cysylltiad gyda sawl person o’r briodas yma. Roedd teulu Beth a Cory mor dwymgalon a chroesawgar, ac mae’r llun yma yn dangos hyn i’r dim.  ‘Everyone strike a pose!’ A dyma gethon ni… Galla’ i ddweud â’m llaw ar fy nghalon taw dyma fy hoff siot grŵp erioed, ac mi fydd e’n anodd iawn gwella ar hwn. Mae’r darlun teuluol yma yn llawn personoliaeth, fel darlun renaissance modern; mae rhywbeth newydd i weld bob tro ti’n edrych.