Mae gan y bardd o Bontypridd albwm newydd ar y gweill sy’n cynnwys y gân fu yn dracsain i ddrama Enid a Lucy ar S4C…

Yn y misoedd nesaf mae Rufus Mufasa yn gobeithio rhyddhau ei hail albwm, Trigger Warning, ar label hip-hop Winger Records yng Nghaerfyrddin.

Bu’r bardd 39 oed yn creu caneuon ers blynyddoedd, a neb llai na’r actor Idris Elba yn ffan o’r trac ‘Funk Finger’ oedd ar ei halbwm gyntaf, Fur Coats from the Lion’s Den, ddaeth allan yn 2017.

Ond mae dipyn wedi newid i Rufus ers hynny, wrth iddi ddod yn fam sengl a throi at ddysgu ei hun, yn ystod y cyfnod clo, sut i greu cerddoriaeth ar gyfrifiadur, er mwyn cael traciau i ganu a rapio drosdyn nhw.

Ac mae llafarganu Rufus yn hollol unigryw, wrth iddi wneud i’r iaith Gymraeg swnio bron fel Arabeg ar brydiau, ac yn Affricanaidd dro arall.

Un o draciau’r albwm newydd yw ‘Sbrydion’, cân wych fydd eisoes yn gyfarwydd i wylwyr Enid a Lucy ar S4C. Dyma dracsain y ddrama Gymraeg am fam ifanc sy’n dianc rhag trais domestig.

Daeth y gân ‘Sbrydion’ ar adeg heriol ym mywyd Rufus, pan newidiodd ei hamgylchiadau personol ar gychwyn y pandemig covid.

Ac fe gafodd hi ei hysbrydoli yn y dyddiau dyrys hynny gan yr artist Grime Bugzy Malone, i fynd ati unwaith eto i greu cerddoriaeth.

Ryw gymysgedd o gerddoriaeth rap, hip-hop a thecno yw Grime, ac mae Bugzy Malone o Fanceinion yn rapiwr sy’n adnabyddus am adfywio’r sîn Grime gyda’i albwm King of the North.

“Rydw i wedi bod yn gwrando lot ar grime music, ac yn y ddwy flynedd ddiwetha’ wedi mynd yn hollol Grime mad,” eglura Rufus, a ddaw yn wreiddiol o Rydaman ond sy’n byw ym Mhontypridd ers blynyddoedd lawer.

“Rydw i yn hollol mewn cariad gyda Bugzy Malone… mae e’n agored iawn am ei brofiadau yn ei gerddoriaeth.

“Ac mae lot o bobol wedi dweud am sgrifennu fi: ‘Sut wyt ti mor agored ac onest?’ Ond dw i ddim wir yn ystyried pa mor agored yr ydw i yn bod…

“Felly roeddwn i wir yn caru gwaith Bugzy Malone, ac roedd hwnna wedi rhoi cryfder i fi wrth fynd trwy’r pandemig a stwff personol…”

Mae Rufus Mufasa yn teimlo nad oes yna hanner digono sylw yn cael ei roi i gerddoriaeth Grime.

Urban art gets really overlooked as an art form, and their contribution to literature,” meddai, “a fi yn gwneud lot o sŵn amdano fe.

“Mae’r artistiaid yma yn hollol wych – they are our twenty first century contemporary story tellers.”

Ac mae Rufus yn dweud bod Bugzy Malone wedi ei sbarduno i gychwyn creu caneuon yn yr iaith Gymraeg eto.

“Yn bendant, mae’r gerddoriaeth Grime wedi rhoi egni a chryfder a hyder i fi. Rydw i wedi cymryd elfennau o hwnna, a gweld sut mae hwnna yn gweithio gyda mamiaith fi.”

Mae yna ddimensiwn gwleidyddol i’r gân ‘Sbrydion’, eglura Rufus.

“Ar honna mae yna lein: ‘Ti’n lwcus dyden ni ddim ond yn eisiau cyfiawnder ac nid dial’.

“Felly fe allai’r gân yma fod am fy sefyllfa bersonol i, ond hefyd fi yn teimlo fod e’n gân amdano annibyniaeth i ni fel gwlad.”

Yn ogystal â chael cryfder yng ngherddoriaeth Grime, mae Rufus yn dweud bod awydd cynhyrchwyr y ddrama Enid a Lucy i ddefnyddio ‘Sbrydion’ fel tracsain i ail gyfres y ddrama deledu wedi bod yn hwb enfawr.

Fe gafodd sawl un o draciau ei halbwm gyntaf, Fur Coats from the Lion’s Den, eu defnyddio ar y gyfres gyntaf o Enid a Lucy, ond roedd y rheiny yn ganeuon yr oedd Rufus wedi cyd-greu gyda cherddorion eraill.

Y gwahaniaeth gyda ‘Sbrydion’ yw ei bod hi wedi creu’r bîts a’r holl gerddoriaeth gefndirol, yn ogystal â chanu a rapio arni.

“Ar gychwyn y cyfnod clo, doedd gen i ddim hyd yn oed laptop oedd yn gweithio.

“Ond wnaeth yr Arts Council alluogi fi i brynu laptop newydd, a meddwl: ‘I’ve just got to learn how to make my own music, like!’”

Ac mae hi wrth ei bodd bod cynhyrchwyr Enid a Lucy wedi pigo fyny ar ‘Sbrydion’, gan nad ydy hi wedi teimlo bod gwerthfawrogiad i’w gwaith wastad wedi bodoli yn ei gwlad ei hun.

I know I sound like being a cow, but sometimes it does feel like I’m pretty much shuned by some of the music set up in Wales.

“A hyd yn oed gyda barddoniaeth fi, rydw i wedi cael mwy o gymorth o Ewrop ac Indonesia a Zimbabwe, yn fwy na fi wedi cael yng Nghymru…

“Felly roedd e’n amazing bod caneuon fi ar gyfres gyntaf Enid a Lucy… ac roeddwn i fel: ‘Oce, tydyn nhw ddim yn chwarae fy stwff ar y radio, ond mae hyn yn massive. A gift from the universe!’

Ac roedd diddordeb y cynhyrchwyr teledu yn ysgogiad iddi fynd ati i greu traciau newydd y llynedd, ar gyfer yr ail gyfres.

“Wnaethon nhw ofyn am chwe trac cyn diwedd mis Ebrill [2021], ac roeddwn i fel: ‘Ie ie ie’.

“Ac wedyn wnes i feddwl: ‘F**ck! I need to get my house in order!’”

Bardd a nofelydd

Cyn y cyfnod clo roedd Rufus Mufasa yn cael ei chyflogi i fynd i ysgolion a chanolfannau cymunedol i gynnal gweithdai barddoni a hip-hop.

Hefyd roedd hi’n cynnal gweithdai sgrifennu gyda phreswylwyr Carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ceisio cael y dynion yno i agor allan a sôn am eu profiadau.

Ond yn fwy diweddar mae hi wedi canolbwyntio ar sgrifennu llenyddiaeth a’r llynedd fe gyhoeddodd gasgliad o’i cherddi mewn llyfr o’r enw Flashbacks and Flowers gyda gwasg Indigo Dreams.

Ac mae hi wrthi yn sgrifennu nofel Gymraeg i bobl ifanc o’r enw Barz sy’n seiliedig ar ei phrofiadau yn yr ysgol uwchradd.

“Mae e’ am profiad high school fi, ond lle mae’r fam yn diflannu ac mae pobol yn ych-a-fi, ac mae’r ferch yma yn dechrau delio gyda phopeth drwy ddechrau battle rapping

“Fi chwe pennod mewn i’w sgwennu fe, ac mae e’n massive i fi.

“Cwpwl o flynyddoedd yn ôl, os byse chi wedi dweud fy mod yn sgrifennu nofel Gymraeg, bydden i wedi chwerthin – ‘me writing a Welsh novel, are you mad?!’”

Mae Rufus Mufasa wedi teithio’r byd yn perfformio a thrafod ei cherddi a’i cherddoriaeth – Sweden, y Ffindir, yr Almaen, Gwlad Pwyl, Indonesia a Zimbabwe.

Ac mae yna flas rhyngwladol iawn i’w steil unigryw o ganu hefyd, ac mae yn credu bod dylanwadau cerddorol ei phlentyndod i gyfrif am hynny.

“Wnaeth fy mam ailbriodi pan oeddwn i yn saith mlwydd oed, ac roedd llys-dad fi yn wreiddiol o Lundain.

“Felly dros nos roedd tŷ fi yn llawn o reggae, soul, calypso. He brought in all these really powerfull women into my life, like Whitney Houston a Diana Ross

“Ac roeddwn i mewn i hip-hop yn yr ysgol yn y 1990au, yn hollol wahanol i pawb arall.”

Mae ei steil o ganu/llafarganu/rapio yn anodd i’w ddisgrifio, ac yn reddfol i Rufus.

“Dw i ddim really yn gwybod beth fi’n gwneud, fi jesd yn gwneud e…”

I glywed Rufus dros eich hunain, ewch i chwilio am y gân hynod ‘Don’t Dior’ ganddi ar YouTube.

Dyma drac llai garw, mwy chillaxed na ‘Sbrydion’, ac mae hi’n glincar gyda Rufus yn herian: ‘Bring your rifle, bring your bible’.