Mae tenor o Geredigion yn pryderu am enw da Cymru fel ‘Gwlad y Gân’, os bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cwtogi rhagor ar ei chystadlaethau canu traddodiadol.

Yn Eisteddfod Ceredigion 2022 yn Nhregaron fis Awst mae Efan Williams o Ledrod yn bwriadu cystadlu yn yr Unawd Tenor dros 25 oed, yr Unawd Lieder, ac Unawd yr Hen Ganiadau 19 oed a throsodd.