Wrth ailddrafftio’i nofel ddiweddaraf, mi benderfynodd yr awdur Llwyd Owen gael gwared ar unrhyw gyfeiriad at y pandemig a Covid-19 yn llwyr.

Mae ei nofel O Glust i Glust yn dilyn dau dditectif sy’n ceisio datrys llofruddiaeth mewn capel. Yn ei ddrafft cyntaf, roedd rhai o’r cymeriadau yn gwisgo mygydau rhag lledaenu’r haint.