Wedi’r fuddugoliaeth felys yn erbyn Awstria, Dylan Ebenezer sy’n trafod gobeithion y Cymry o gyrraedd Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni…

Mae’r sylwebydd a chyflwynydd pêl-droed Dylan Ebenezer yn credu y gall y Wal Goch ddechrau breuddwydio am fynd i Gwpan y Byd yn Qatar ar ddiwedd y flwyddyn. Ond mae’n pwysleisio bod “y realiti yn well nag unrhyw freuddwyd” i dîm pêl-droed Cymru ar hyn o bryd.