Mae’n braf cael byw mewn tŷ haf… a diolch i Lywodraeth Cymru, mae hi am fod yn ddrytach hefyd.

O fis Ebrill 2023 bydd gan gynghorau sir y wlad yr hawl i godi premiwm o 300% ar dreth y cyngor sy’n ddyledus ar dai haf.

Mae hynny yn golygu y gallai perchnogion tai haf fod yn talu pedair gwaith y dreth arferol.

Gan edrych ar y tai haf drytaf, byddai angen talu £16,936 o dreth y cyngor y flwyddyn.