Rapio, bît bocsio, creu caneuon cyfan gyda dim byd ond ei lais – mae Mr Phormula yn gallu gwneud y cwbl lot, baby!

Ac yntau wrthi ers degawdau bellach yn perfformio fel artist sengl ar ôl cychwyn gyda’r bandiau Pep Le Pew a Genod Droog (oedd hefyd yn cynnwys Dyl Mei, mêt Tudur Owen ar Radio Cymru), mae Mr Phormula wastad wedi hoffi cydweithio gydag eraill.