Mae’r dinistr yn Wcráin wedi bod yn waeth hyd yn oed nag yr oedden ni’n ei ofni a’r Rwsiaid yn poeni dim am ladd pobol gyffredin.

Hyd yn oed i rai sy’n credu’n sylfaenol mewn heddwch, mae yna deimlad o rwystredigaeth wrth fethu â gwneud dim i atal unben caled, digymrodedd.

Beth bynnag am y cefndir a’r cymhlethdod hanesyddol yn yr ardal, mae digwyddiadau’r pythefnos diwetha’ yn farbareiddiwch llwyr.