Dw i wedi bod yn rhan o Blaid Cymru ers pryd dw i yn yr ysgol, ac wedi bod yng nghanol ymgyrchoedd gwleidyddol erioed”

Wrth iddi baratoi i ymddeol ar ôl deng mlynedd o arwain Cyngor Ceredigion, mae Ellen ap Gwynn yn dweud ei bod hi’n gorffen ei chyfnod wrth y llyw ar “uchafbwynt”.

Cafodd ei hethol yn gynghorydd sir yn 1999, gan gynrychioli ward Ceulan-y-maes-mawr, sy’n cynnwys pentrefi Tal-y-bont a Bont-goch.